Ar-lein, Mae'n arbed amser
Yr YMCA i ddyfod yn ‘adnodd masnachol safonol mewn lleoliad hanesyddol, unigryw’
- Categorïau : Press Release
- 11 Tach 2021
Mae cyn adeilad yr YMCA ar fin cael ei drawsffurfio yn ‘hyb ysbrydoledig ar gyfer gweithgareddau economaidd a chymdeithasol yng nghalon Merthyr Tudful.’
Mae’r adeilad Gradd II Rhestredig wedi bod yn wag am dros ddegawd a bydd yn derbyn buddsoddiad o £8.6 miliwn gan Gronfa Treftadaeth y Loteri, rhaglenni Adeiladu ar gyfer y Dyfodol a Thrawsffurfio Trefi, Llywodraeth Cymru a hefyd gan y Cyngor Bwrdeistref Sirol.
Nod y cynllun yw trawsffurfio’r YMCA i 10 uned ar brydles a chreu’r hyn a ddisgrifir yn ‘adnodd masnachol, safonol mewn lleoliad hanesyddol, unigryw,’ gan alluogi busnesau a’r gymuned leol i ddefnyddio’r adeilad.
“Bydd y datblygiad hwn yn creu man gwaith dyfeisgar a chydweithredol ac yn denu busnesau newydd a chyfredol i ganol y dref,” meddai’r Cynghorydd Geraint Thomas, Aelod o’r Cabinet ar gyfer Adfywio, Trawsffurfio a Masnacheiddio.
“Roedd yr YMCA yn wreiddiol yn ganolfan flaengar ar gyfer datblygiad cymdeithasol a phersonol ac mae wedi bod yn symbol o adfywiad Merthyr Tudful,” ychwanegodd.
“Byddai colli’r adeilad wedi creu gwagle yn nhreftadaeth gyfoethog canol y dref ac wedi bod yn arwydd o’r edwino parhaus. Bydd yn awr yn cael ei ddiogelu a’i ailwampio i’r safon uchaf gan gadw’r arwyneb blaen, unigryw.”
Mae’r strwythur pedwar llawr, terracotta yn ‘adeilad o bwysigrwydd rhyngwladol ac yn parhau i fod yn rhan bwysig o dreflun, modern y dref.’ Cafodd ei gynllunio gan y pensaer Cymreig blaengar, Syr Percy Thomas ym 1911.
“Mae’r adeilad yn gwneud cyfraniad pwysig ac yn wagle cyhoeddus, hanesyddol o bwys gyda’i rodfa a’i lwybr cerdded ar ei ochr ddeheuol. Mae’n bwysig i lif y cerddwyr trwy’r dref,” meddai adroddiad gan un o’r swyddogion.
“Mae’n cyfrannu tuag at gymeriad ac ymarweddiad ardal breswyl Fictoraidd rhan ogleddol y safle sydd ar hyn o bryd yn dioddef yn sgil cyflwr yr adeilad.
“Bydd yma 954m2 o unedau masnachol integredig, hyblyg a bydd yn hyb ysbrydoledig ar gyfer gweithgaredd economaidd yng nghalon Merthyr Tudful.”
Dywedodd Lee Waters, Dirprwy Weinidog Llywodraeth Cymru ar gyfer Newid Hinsawdd; “Rwy’n hynod o falch ein bod wedi gallu cefnogi’r prosiect cyffrous hwn a fydd yn gweld trawsffurfiad yr adeilad rhestredig, eiconig hwn.
“Bydd creu pwrpas newydd i’r adeilad yn cefnogi adfywiad ehangach Merthyr Tudful a gobeithio y bydd yn dyfod yn enghraifft arall o beth all ddigwydd pan rydym yn gweithredu i adfywio canol ein trefi er mwyn sicrhau eu parhad i’r dyfodol.
“Trwy’n rhaglen Trawsffurfio Trefi, rydym yn darparu £136 miliwn i gynorthwyo adfywiad economaidd a chymdeithasol ein trefi a’n dinasoedd, ledled Cymru. Mae’n polisi Canol y Dref yn Gyntaf wedi’i ymwreiddio yng nghynllun datblygu cenedlaethol Dyfodol Cymru yn golygu y dylai safleoedd yng nghanol ein trefi a’n dinasoedd gael eu hystyried yn gyntaf wrth bennu lleoliadau ar gyfer lleoedd gwaith a gwasanaethau.”
Dywedodd Andrew White, Cyfarwyddwr Cymru, Cronfa Treftadaeth y Loteri, “Mae buddsoddi mewn treftadaeth yn golygu ein bod yn buddsoddi yn y gymuned a dyna pam ein bod mor falch o’r prosiect adfywio hwn. Bydd nid yn unig yn diogelu adeilad pwysig ond hefyd yn adfywio’r economi leol ac yn cael ei fwynhau gan drigolion lleol ac ymwelwyr.”
Mae John Weaver (Contractwyr) wedi bod yn llwyddiannus ac wedi ennill y contract ar gyfer y gwaith ailddatblygu. Mae gan y cwmni adran gadwraeth adeiladau sydd yn arbenigo ar sicrhau fod tirnodau ac adeiladau diwylliannol sydd yn rhan allweddol o ddiwydiant twristiaeth Cymru yn cael eu diogelu a’u bod yn cael eu defnyddio a’u bod yn gywir, yn ymddangosiadol.
Dywedodd Terry Edwards, y Rheolwr Gyfarwyddwr: “ Rydym wrth ein bodd i gael ein dewis yn gontractwr i ddarparu’r prosiect cadwriaethol pwysig hwn ar gyfer Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful a’i randdeiliaid.
“Mae’n timau cadwriaethol yn canolbwyntio ar sicrhau fod tirnodau ac adeiladau diwylliannol fel yr YMCA yn cael ailfywyd a’u bod yn cael eu mwynhau gan genedlaethau’ dyfodol.
“Mae’n fraint ac yn anrhydedd i gael y cyfle hwn i wneud gwir wahaniaeth i’r tirnod anhygoel hwn ynghanol tref Merthyr Tudful.”