Ar-lein, Mae'n arbed amser

Pobl ifanc Merthyr Tudful yn falch i lansio Siarter Hinsawdd: 10 addewid i gynorthwyo’n planed

  • Categorïau : Press Release
  • 19 Meh 2023
CC (1)

Mae plant a phobl ifanc Merthyr Tudful wedi lansio ‘Siarter Hinsawdd’ Ysgolion Merthyr Tudful. 

Mewn cynhadledd i fyfyrwyr a gynhaliwyd fis Gorffennaf, rhannodd disgyblion o flynyddoedd 4 i 10 eu syniadau ynghylch yr hyn y gallai ysgolion eu gwneud er mwyn cynorthwyo’r argyfwng byd eang.

Trwy amrywiaeth o weithdai gan sefydliadau lleol, elusennau a busnesau, derbyniodd y myfyrwyr heriau i ddynodi deg ymrwymiad fyddai’n eu galluogi i ymdrin â’r argyfwng hwn.

Yn unol â Chwricwlwm Cymru, bu’r plant yn meddwl fel dinasyddion cyfrifol gan wneud dewisiadau cadarnhaol allai gynorthwyo i achub y byd.

Mae Siarter yr Hinsawdd yn cynnwys 10 ymrwymiad sydd yn cynnwys amrywiaeth o bynciau ar gynaliadwyedd:
- Parhewch i ddysgu   
- Lleihau plastig                                  
- Tyfu planhigion a bwyd             
- Leihau ynni                          
- Annog bioamrywiaeth  
- Arwain    
- Cydweithio â’r gymuned
 
- Dewis trafnidiaeth gynaliadwy
- Lleihau. Ailddefnyddio. Ailgylchu
- Cysylltu ag ysgolion erail


Bydd y Siarter yn grymuso ysgolion, eu disgyblion a’u cymunedau i ddewis a chynllunio’u rhan a gweithredu er budd yr hinsawdd. Gall ysgolion ymroi i weithredu mewn ffyrdd bychain. O ganlyniad i’w hymgysylltiad, byddant yn cyflawni deilliannau gwych a chreu Merthyr Tudful sydd yn lân a gwyrdd a sicrhau gwell dyfodol i’r byd. 

Dywedodd y Cynghorydd Michelle Symonds, Hyrwyddwr Newid Hinsawdd:

“Mae plant a phobl ifanc Merthyr Tudful yn arwain y ffordd a bydd eu gwaith yn cyfrannu at y broblem fyd eang hon. Efallai fod y 10 addewid yn ymddangos yn fach ond os gall pawb yn ein cymunedau eu cefnogi, gallwn wneud gwahaniaeth. Edrychaf ymlaen at glywed rhagor am waith ein hysgolion a’n cymunedau.”

Mae Ysgol Gynradd Coed y Dderwen wedi bod yn rhan allweddol o ddatblygu’r Siarter. Roeddent am sicrhau fod yr iaith yn glir ac y gallai bawb ddeall a chyfrannu. Cyfrannodd Ysgol Uwchradd Cyfarthfa yn ogystal gan rannu eu teimladau a’u safbwyntiau.

Ysgolion eraill a ddangosodd eu gwaith yn y gynhadledd oedd ysgol Gynradd Troedyrhiw a rannodd yr App Eco y maent wedi ei ddatblygu. Rhannodd Campws y Santes Fair gynllun o’r car y maent wedi ei gynllunio fel rhan o Gynllun Peirianyddol Cymoedd Cymru. Cynhaliodd Fforwm Ieuenctid Bwrdeistref Gyfan Merthyr Tudful weithdai er mwyn cynorthwyo plant a phobl ifanc i feddwl am eu cyfrifoldebau. Roedd yr adborth a gafwyd yn gymorth i ffurfio’r deilliant. Diolch i bawb.

Mae Siarter Hinsawdd yr Ysgolion yn galw am weithredu. Gallwn weithredu. Gallwn wneud gwahaniaeth.

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni