Ar-lein, Mae'n arbed amser
Eich cyfle i rentu’r swyddfa berffaith yng Nghanolfan Orbit
- Categorïau : Press Release
- 04 Ebr 2023
Mae cyfle prin ar gael i fusnes rentu swyddfa ym mhrif ganolfan menter Merthyr Tudful.
Mae Canolfan Fusnes Orbit y Fwrdeistref Sirol wedi ei leoli’n ganolog- ac yn cynnig adeilad modern gyda chyfleusterau cyfoes, parcio am ddim a chefnogaeth TG- mae uned wag 385 troedfedd sgwâr gyda lle i rhwng pedwar a chwech o bobl.
Mae’r ystafell sydd wedi ei dodrefnu, hefyd yn cynnwys defnydd o ystafell bwyllgor y ganolfan am hyd at bedair awry r wythnos, ar gael ar gael am brydles hyblyg o rhwng tair a deng mlynedd.
Mae’r denantiaeth yn cynnwys y gallu i argraffu, sganio a llungopïo, adloniant News 24, tim ymroddedig yn cynnig cefnogaeth gweinyddu, busnes a chyngor gyda chegin a chyfleusterau ystafell staff hefyd.
Roedd preswylydd diwethaf Ystafell RG09, Rheolwr Cymunedau i Waith Blaenau Gwent a Merthyr Tudful, Nigel Jones, yn canmol yr ystafell a Chanolfan Orbit.
“O’r eiliad y daethom yma roeddem wedi ein plesio gyda’r cyfleusterau oedd ar gael,” meddai. “ Mae’r lle wedi ei osod yn dda ac mae’r lleoliad yn cynnig y lle i ni gyflawni ein gwaith o ddydd i ddydd, cynnal cyfarfodydd a sesiynau hyfforddi, gyda digon o le parcio hefyd!
“Roedd proffesiynoldeb ac ymateb y staff yn werth ei nodi,” ychwanegodd Nigel. “Os oedd unrhyw fater angen sylw roeddent yn ymateb iddynt yn syth ac roeddent yn mynd y filltir ychwanegol i sicrhau bod ein profiad gwaith yn un esmwyth a di ffwdan. Roedd y tîm yn groesawus a chyfeillgar, ac roeddem yn teimlo ein bod yn cael ein gwerthfawrogi fel tenantiaid.
“Byddwn i’n argymell y lleoliad i unrhyw un sy’n chwilio am ofod busnes modern, gyda digon o adnoddau ac sy’n cael ei reoli yn broffesiynol ar gyfer anghenion busnes. Diolch am wneud ein cyfnod rhent o 18 mis yn brofiad mor gynhyrchiol.”
- Mae gan Ganolfan Orbit, a agorwyd yn 2008, adeilad y gellir cael mynediad iddo 24 awr y dydd, gyda chyfanswm o 60,000 troedfedd sgwâr o swyddfeydd hyblyg o safon uchel, ystafell bwyllgor, ystafelloedd cynadledda a hyfforddiant gyda band llydan ffibr a thechnoleg cyfarfod hybrid.
Lleolir y ganolfan yng nghanol Merthyr Tudful, drws nesaf i adeilad Llywodraeth Cymru a chyferbyn i barc hamdden, ac mae’r A470 gerllaw a gallwch gerdded i’r orsaf reilffordd.
Ffoniwch 01685 352700 neu e-bostiwch info@orbitbusinesscentre.co.uk os oes gennych ddiddordeb mewn rhentu’r swyddfa.