Ar-lein, Mae'n arbed amser

Andrew, y Maer Ieuenctid yn cael ei urddo

  • Categorïau : Press Release
  • 28 Mai 2021
Youth Mayor Andrew Millar

Maer Ieuenctid newydd Merthyr Tudful yw Andrew Millar, sydd yn 14 oed ac yn fyfyriwr yn Ysgol Uwchradd Cyfarthfa.  

Andrew yw 11eg Faer Ieuenctid y fwrdeistref sirol a chafodd ei urddo yn y Ganolfan Ddinesig yn gynharach yr wythnos hon. Cyd-fyfyriwr iddo yn Ysgol Uwchradd Cyfarthfa,  Samee Furreed yw’r Dirprwy Faer Ieuenctid.

Yn ei araith, amlinellodd y Maer Ieuenctid ei dair adduned ar gyfer y swydd. Y gyntaf oedd ‘annog a gwella sgiliau bywyd ar gwricwlwm yr ysgolion.’

Ei ail adduned oedd, codi ymwybyddiaeth o iechyd meddwl ac ymdrin â’r stigma sydd yn ei amgylchynu. Ei drydedd adduned oedd, annog pobl ifanc yn y fwrdeistref sirol i bleidleisio drwy wella eu dealltwriaeth am gymdeithas a gwleidyddiaeth.

Yn ystod ei gyfnod yn y swydd, bydd Andrew yn codi arian tuag at elusen gerddorol Aloud ym Merthyr Tudful.

Dywedodd Andrew: “Mae’n anrhydedd fod pobl ifanc Merthyr Tudful wedi fy newis i, i fod yn Faer Ieuenctid iddynt. Mae’n gyfle gwych ac mi fyddaf yn gwneud fy ngorau i’w cynrychioli a sicrhau fod safbwyntiau pobl ifanc Merthyr yn cael eu clywed a’u gweithredu.”  

Cafodd y rôl ei chreu gan Fforwm Ieuenctid Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful (FfIBSMT.) Mae Cabinet yr Ieuenctid yn sicrhau fod lleisiau pobl ifanc yn cael eu clywed a’u bod yn gwneud gwahaniaeth i wasanaethau pobl ifanc. 

Gall pobl ifanc, rhwng 11 a 23 oed, enwebu eu hunain ar gyfer rôl y maer ieuenctid. Mae deiliad y swydd yn ymddwyn fel model rôl ar gyfer pobl ifanc ac yn mynychu digwyddiadau a gweithgareddau, ar y cyd â’r Maer.

Hoffai Andrew petai ragor o bobl ifanc yn cyfranogi yn y Fforwm. Os hoffech ragor o wybodaeth am sut i gyfranogi, cysylltwch â’r Prif Swyddog Cymorth Cyfranogiad Ieuenctid, Janice Watkins yn Safer Merthyr Tydfil ar 01685 353999 neu, cysylltwch â ni ar Facebook neu Twitter @MTYouth.

 

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni