Ar-lein, Mae'n arbed amser

Paent

O ddydd Mercher 1 Ebrill 2020 byddwn yn newid y ffordd y gallwch ddyddodi nwyddau paent yn eich Canolfannau Ailgylchu a Gwastraff y Cartref.

Gall y safleoedd dderbyn paent gwlyb mewn cynhwysydd o faint y byddech fel arfer yn ei ddefnyddio ar gyfer prosiectau’r cartref (fel arfer hyd at 10 litr), os yw’n cael ei ystyried gan weithredwyr y safle y gellir ei ailddefnyddio.

Ni ellir defnyddio paent gwlyb yr ystyrir ei fod yn anaddas i’w ailddefnyddio.

Gellir dyddodi cynwysyddion paent ar gyfer ailgylchu os ydyn nhw’n wag neu os yw’r paent yn sych ac wedi caledu.

Gellir cael gwared arnynt yn y cynhwysydd ailgylchu cyfatebol. Os oes raid i chi gael gwared ar baent gwastraff, tip defnyddiol i helpu’r paent i sychu yw gadael y caead oddi ar y cynhwysydd am rai dyddiau cyn dod ag e i’r ganolfan.

Ni dderbynnir hylif teneuo paent, bitwmen, hylifau peryglus eraill, paent masnachol na thuniau mawr (dros 10 litr).

Cysylltwch â Ni