Ar-lein, Mae'n arbed amser

Casgliadau batris y cartref wrth ymyl y ffordd

Gallwch ailgylchu hen fatris y cartref bellach wrth ymyl y ffordd fel rhan o’ch cynllun ailgylchu wythnosol. Defnyddiwch y bag bach porffor a ddarparwyd gan y Cyngor ar gyfer ailgylchu batris.

Gallwch gasglu bagiau porffor o lyfrgelloedd lleol a chanolfannau cymunedol, Ganolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref Dowlais neu Aberfan, neu o’r siop newydd, ‘Bywyd Newydd’ a leolir yn Uned 20, Parc Diwydiannol Merthyr Tudful, Pentrebach, Merthyr Tudful CF48 4DR.

Rhowch unrhyw fatris a ddangosir yn y ddelwedd isod mewn bag a rhowch y bag hwnnw allan i’w gasglu ar ben eich blwch ailgylchu ar eich diwrnod casglu ailgylchu arferol.

Mae batris y cartref yn cynnwys deunydd gwenwynig ac ni ddylent fyth gael eu rhoi yn eich bin olwynion gyda gwastraff na ellir ei ailgylchu. Bydd y Cyngor yn casglu eich batris a’u hanfon i’w hailbrosesu er mwyn eu hailgylchu yn y modd cywir a bydd hyn yn atal y perygl o’r batris yn llygru ein hamgylchedd lleol.

Diolch am eich cefnogaeth barhaus

Cysylltwch â Ni