Ar-lein, Mae'n arbed amser

Bin mwy o faint

Defnyddiwch y gwasanaeth hwn i ymgeisio am bin cynhwysedd mwy.

O 1 Ebrill 2024 ymlaen, codir tâl o £18.26 am ddarparu’r bin cynhwysedd mwy, sy’n daladwy cyn ei ddosbarthu. Unwaith nad oes angen y bin hwn bellach, darperir bin 140 litr safonol yn rhad ac am ddim.

Os ydych yn gwneud cais am fin sbwriel mwy o faint oherwydd gwastraff cewynnau babi, beth am ystyried defnyddio cewynnau go iawn? Mae defnyddio cewynnau go iawn yn lleihau bron i 900kg o wastraff am bob plentyn. Oeddech chi’n gwybod bod cewynnau un-tro yn gyfrifol am rhwng 2% a 3% o holl wastraff y cartref? Ewch at ein tudalen gwybodaeth cewynnau go iawn i ddarganfod mwy cyn gwneud cais am fin sbwriel mwy o faint

Cynhelir archwiliad o’ch bin presennol gan y Wardeiniaid Gwastraff, fel arfer ar eich diwrnod casglu nesaf.

Gwneir asesiad i ganfod a oes angen bin mwy o faint ar ddeiliad y tŷ trwy fesur a yw swm y gwastraff na ellir mo’i ailgylchu yn fwy na’r hyn y gellir ei gynnwys yn y bin 140 litr safonol.

Os oes unrhyw ddeunydd i’w ailgylchu yn y bin olwyn, bydd y Warden yn gwrthod y cais.

Os bydd y Warden yn ystyried bod y deiliad tŷ yn ailgylchu pob dim posibl a’i fod yn parhau â gormod o wastraff na ellir mo’i roi yn y Bin 140 litr â’r caead ar gau yn llwyr, yna bydd y cais yn cael ei basio.

Anfonir llythyr neu e-bost atoch i’ch hysbysu o ganlyniad y cais.

Os yw’n llwyddiannus, caiff y bin â’r capasiti ychwanegol ei ddosbarthu o fewn 10 niwrnod.

Os nad yw ymgeiswyr yn defnyddio’r gwasanaethau ailgylchu yn ôl y gofyn, yna rhoddir cyngor ynghyd â chynwysyddion ailgylchu lle bo angen.

Os ydych chi’n anghytuno â’r penderfyniad

Fel rhan o’r broses apelio, bydd y Wardeiniaid Gwastraff yn cynnal ail archwiliad os bydd y deiliad tŷ yn cynnig rheswm dilys am fethiant yr archwiliad gwreiddiol i adlewyrchu’i wastraff arferol bob pythefnos.

Dim ond un apêl fesul cartref a ganiateir, oni bai bod amgylchiadau’r deiliaid yn newid.