Ar-lein, Mae'n arbed amser

Ailddefnyddio paent

Bellach gellir mynd â rhoddion paent i'r CAT yn Nowlais. I wneud rhodd, siaradwch â gweithiwr ar y safle a llofnodwch y log rhodd.

Rhaid i'r paent fod dros 500ml mewn maint ac mewn cyflwr y gellir ei ddefnyddio. Bydd unrhyw baent mewn maint rhy fach i'w ailddefnyddio neu nad yw mewn cyflwr da yn cael ei wrthod.

Mae paent a roddwyd ar gael yn rhad ac am ddim i drigolion y Fwrdeistref Sirol o GAT Dowlais.

Mae'r paent wedi'i gynnwys yn adran Ailddefnyddio'r safle ochr yn ochr â'r banciau ailgylchu tecstilau.

Mae paent yn cael ei storio yn nhrefn math a dim ond paent ar gael ar y safle adeg ymweliad y preswylydd fydd ar gael i'w gasglu. Ni ellir archebu ymlaen llaw o fath paent, lliw a maint. Rhaid i unrhyw berson a hoffai fanteisio ar y gwasanaeth rhad ac am ddim hwn roi gwybod i aelod o staff cyn mynd i mewn i'r cynhwysydd ailddefnyddio paent.

Ni ddylid tynnu paent heb gwblhau'r log yn gyntaf.

P'un a oes angen meintiau mawr neu fach o baent arnoch ar gyfer pa bynnag waith DIY, byddem yn eich croesawu i fanteisio ar y gwasanaeth hwn a lleihau faint o baent o ansawdd da sy'n cael ei anfon i'w waredu!

Sylwch na fydd y gwasanaeth ar gael yn y GAT yn Aberfan.

Cysylltwch â Ni