Ar-lein, Mae'n arbed amser
Cewynnau go iawn
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful wedi ymrwymo i annog preswylwyr i leihau eu gwastraff, i helpu diogelu’r amgylchedd ac i gynnig gwasanaethau a gwybodaeth er lles preswylwyr. Dyma pam ein bod yn hyrwyddo cewynnau go iawn.
Pam ddylwn i newid?
Mae’n well i’r babi
Mae cewynnau modern y gellir eu golchi wedi eu gwneud allan o ddefnyddiau medal, sy’n sychu’n hawdd fel microfiber, bamboo, a ffabrig tery cotwm arferol.
Maent yn dod mewn amrywiaeth o liwiau ac yn llawer mwy cyfforddus na chewynnau plastig un-tro. Mae’ r ffabrig sy’n dal dŵr mewn cewynnau go iawn yn golygu nad oes angen rhoi cemegau ger croen eich babi gan wneud hyn yn opsiwn gwell i’ch babi.
Cadw popeth mewn
Mae cewynnau go iawn yn ddewis ymarferol a dibynadwy i gewynnau un-tro. Mae rhieni yn synnu yn aml fod cewynnau go iawn yn well na chewynnau un-tro am gadw popeth mewn.
Hyfforddiant toiled yn gynt
Mae profiad yn dangos bod babis yn defnyddio cewynnau go iawn yn hyfforddi i fynd i’r toiled fisoedd yn gynt na babis yn defnyddio cewynnau un-tro.
Arbed arian
Os ydych chi'n defnyddio cewynnau go iawn trwy’r amser, bydd angen tua 20 cewyn a leiniwr, bagiau gwrth ddŵr a bwced ayyb.
Byddai cit llawn yn costio tua £300. ( Byddai defnyddio brand rhatach neu gewynnau ail -law yn rhatach fyth!)
Amcangyfrif i gymharu costau:
- Cewynnau go iawn £300-£450 yn dibynnu ar y brand a ddefnyddir. Mae hyn yn cynnwys y cewynnau a chostau golchi (trydan, dwr a phowdr golchi) hyd at oed hyfforddiant toiled.
- Cewynnau un-tro £700 -£800 y plentyn.
Cofiwch y gall cewynnau go iawn gael eu defnyddio et oar gyfer brawd neu chwaer, neu eu gwerthu, a fydd yn arwain at arbed mwy.
Helpu’r Amgylchedd
Mae cewynnau go iawn, o’i gymharu â chewynnau un-tro yn rhoi gwell rheolaeth ar yr amgylchedd i rieni gan fod y ffordd rydych yn dewis golchi eich cewynnau yn effeithio ar nifer y carbon deuocsid rydych yn ei arbed. Felly, os ydych y neu ddefnyddio yn gywir, gall cewynnau go iawn fod 40% yn fwy cyfeillgar i’r amgylchedd na chewynnau un-tro.
Ar ben hyn, mae cewynnau un-tro wedi eu gwneud o goed wedi ei malu a phlastig. Mae hyn yn dod gyda chostau cynhyrchu uchel. Mae tua 7 miliwn coeden yn cael ei dorri bob blwyddyn ar gyfer hyn a defnyddir cwpan o olew i gynhyrchu pob cewyn un-tro.
Lleihau gwastraff
Teflir 3 biliwn cewyn un-tro pob blwyddyn yn y DU, mae 90% ohonynt yn mynd i safleoedd tirlenwi.
Amcangyfrif bod pob cewyn yn cymryd tua 500 mlynedd i bydru. O ystyried bod pob babi yn defnyddio rhwng 5000 a 6000 o gewynnau un-tro, maent yn cael effaith sylweddol ar yr amgylchedd.
Bydd defnyddio cewynnau go iawn yn cael effaith sylweddol ar nifer eich gwastraff yn wythnosol - gan olygu bod mwy o le yn eich bin sbwriel, yn arbed yr adnoddau naturiol sy’n cael ei gynhyrchu wrth ddefnyddio cewynnau un-tro ac yn lleihau peth o’r pwysau sydd ar safleoedd tirlenwi.
Eisiau profi cyn prynu? Defnyddiwch lyfrgell gewynnau lleol.
Ffordd dda i ddarganfod os yw cewynnau go iawn yn iawn i chi yw benthyg rhai o lyfrgell fenthyg leol. Cysylltwch gyda llyfrgell fenthyg leol i brofi cyn prynu.
Mae Bethan O’Sullivan yn wirfoddol wraig sydd wedi sefydlu llyfrgell gewynnau Bethan yn ardal Merthyr Tudful. Mae Bethan wedi defnyddio cewynnau go iawn gyda'i phlant a gall gynnig cyngor ac arweiniad i ddefnyddwyr newydd ac mae ganddi ystod o gewynnau gwahanol y gallwch eu profi fel gallwch ddewis yr un mwyaf addas ar gyfer eich plentyn.
Gallwch gysylltu gyda Bethan
Dros y ffon ar :07756032435,
e-bost: nappybombdisposal@outlook.com
Facebook: facebook.com/bethansnappylibrary
Twitter:@nappybombs
Cynllun cymhelliant cewynnau cenedlaethol
Yng Nghyfrifiad Mawr 2022 The Nappy Gurus darganfuwyd y byddai 86% o rieni yn cael eu cymell i ddefnyddio cewynnau go iawn, felly nawr mae Cynllun Cymhelliant Cenedlaethol sy’n agored i bawb. Cewch fwy o wybodaeth yma: National Nappy Incentive Scheme | The Nappy Gurus <https://www.thenappygurus.com/national-nappy-incentive-scheme.html>