Ar-lein, Mae'n arbed amser

Sut i archebu cynhwysedd ailgylchu, bwyd, a gwastraff garddio

Defnyddiwch y gwasanaeth yma i wneud cais ac amnewidyn bin olwynion neu gynhwysydd ailgylchu

Oherwydd y cynnydd mawr a fu yn y galw am gynwysyddion ailgylchu, bydd oedi cyn eu danfon. Diolch am ailgylchu gyda CBSMT.

Taliadau Bin Olwynion

O 1 Ebrill 2023 bydd tâl gweinyddu a darparu o £18.26 yn cael ei godi am unrhyw fin olwynion newydd.

Bydd yn rhaid i bob preswyliwr, boed yn ddeiliad tŷ newydd neu’n un cyfredol, gorfod talu am adnewyddu unrhyw fin olwynion. Mae hyn yn cynnwys biniau sydd wedi mynd ar goll, eu difrodi neu finiau mwy o faint. Bydd cynwysyddion ailgylchu yn parhau i fod am ddim.

Gellir talu ar-lein am fin wedi ei ddifrodi neu adnewyddu yma: Merthyr.gov.uk neu yn nerbynfa’r Ganolfan Ddinesig. Gellir talu am fin mwy o faint drwy swyddog awdurdodedig y Cyngor yn dilyn cais llwyddiannus am y cynhwysydd.

Os oes gennych bin yn eich eiddo preswyl pryd mae yna ymgais i anfon bin, bydd bin ddim yn cael ei hanfon ond fe fydd yna bris dal yn cael eich codi arnoch chi.

Cafodd rhestr o gwestiynau cyffredin a ofynnir yn aml eu darparu isod a dylech gael ateb i’r rhan fwyaf o’r ymholiadau. Am wybodaeth bellach cysylltwch â'r Gwasanaeth Cefnogi ar wasteservices@merthyr.gov.uk

Cwestiynau Cyffredin

Pam fy mod i’n gorfod talu am fy nghynwysyddion gwastraff?

Mae'r Cyngor yn gweithredu o safle gyllideb ostyngedig ers nifer o flynyddoedd a rhaid iddo barhau i wneud arbedion sylweddol ac felly ni all fforddio darparu’r gwasanaeth hwn ddim mwyach. Cafodd y polisi codi tâl am gynhwysydd gwastraff ei gyflwyno i annog preswylwyr i gymryd cyfrifoldeb dros y cynwysyddion sy’n cael eu darparu a lleihau’r galw am adnewyddu cynwysyddion.

Pam nad yw fy Nhreth Gyngor yn talu am y gost hon?

Mae’r gyfran o’ch treth gyngor a gaiff ei phriodoli ar gyfer gwasanaethau gwastraff yn fach iawn. Mae’r gwasanaeth hefyd wedi ei ariannu o ffynonellau eraill. Gan fod y ffrydiau ariannu hyn a chyfyngiadau cyllideb yn lleihau, ni all y Cyngor fforddio adnewyddu biniau am ddim mwyach.

Am beth mae’r tâl yn ei dalu?

Mae’r tâl yn talu am gostau gweinyddol a throsglwyddo’r bin. Nid yw’n cynnwys cost y bin(iau) ac mae’r bin(iau) yn parhau i fod yn eiddo i’r Cyngor.

A yw’r Cyngor yn gwneud arian drwy godi tâl am finiau olwynion?

Nid yw’r Cyngor yn gwneud arian drwy godi tâl am finiau olwynion, dim ond talu am gostau gweinyddol a throsglwyddo’r bin mae’r tâl. Mae’r Cyngor wedi adnewyddu degau o filoedd o finiau yn rhad ac am ddim dros y blynyddoedd diweddar. Yn anffodus ni all y Cyngor fforddio i ddarparu’r gwasanaeth hwn am ddim mwyach.

Allaf i osgoi’r tâl gweinyddol drwy gasglu fy min o’r depo?

Na allwch, dim ond drwy eu trosglwyddo oddi wrthym ni atoch chi y mae cynwysyddion gwastraff ar gael.

Sut ydw i fod i stopio fy nghynwysyddion gwastraff rhag cael eu dwyn. Nid fy mai i yw hyn ac rwy’n gorfod talu amdano.

Mae llawer o bethau y gallwch eu gwneud i atal hyn rhag digwydd:

Nodwch eich cyfeiriad yn glir ar eich bin gydag inc parhaol.

Ble y bo’n bosibl, peidiwch â gosod eich bin allan ar gyfer casgliadau'r noson gynt gan fod hyn yn golygu fod mwy o amser iddo fynd ar goll. Dylai cynwysyddion gael eu gosod allan ar gyfer casgliadau cyn 7:00am

Ceisiwch sicrhau fod eich bin yn dod yn ôl cyn gynted â phosibl ar ôl y casgliad. Mae’n bosibl y bydd eich cymydog yn gallu helpu gyda hyn.

Sut allaf i dalu am fy miniau?

Gellir talu am adnewyddu cynwysyddion sydd wedi eu difrodi neu fynd ar goll, ar-lein yma: Merthyr.gov.uk neu yn nerbynfa’r Ganolfan Ddinesig. Gellir talu am fin fwy o faint drwy swyddog awdurdodedig y Cyngor yn dilyn cais llwyddiannus am y cynhwysydd.

Allaf i brynu bin fy hun o rywle arall?

Na allwch, er mwyn sicrhau ein bod ni’n bodloni safonau perthnasol EN a’u bod yn cyfateb â manylion bin cyngor (e.e. lliw a maint cyfredol ar gyfer pob math o fin ac yn cynnwys logo CBS Merthyr Tudful). Dim ond un bin gaiff ei wagio am bob cartref.

Beth fydd yn digwydd os na fyddaf yn talu am y biniau?

Mae gofyniad cyfreithiol gan y Cyngor o dan Adran 46 Deddf Diogelu’r Amgylchedd 1990 (EPA) i gasglu gwastraff y cartref. Mae Adran 46 yn dweud fod yr awdurdod lleol yn gallu diffinio’r math o fin i’w ddefnyddio a’i fod yn ofynnol bod y preswylydd yn talu amdano.

Gallai preswylwyr sy’n gwrthod talu am gyflenwad o gynhwysydd gwastraff gael eu cyflwyno â hysbysiad Adran 46 o dan Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd 1990, a / neu ddeddfwriaeth berthnasol arall. Bydd yn ofynnol yn ôl yr hysbysiad fod deiliad y tŷ yn darparu cynwysyddion angenrheidiol ar gyfer ei wastraff. Gallai methu â chydymffurfio â’r hysbysiad hwn arwain at gyflwyno hysbysiad cosb benodedig a / neu erlyniad o ran y Cyngor, os yw’r preswylydd yn gosod sbwriel allan mewn cynhwysydd sydd heb ei awdurdodi.

Efallai y byddai’n well gan breswylwyr gael gwared ar eu sbwriel eu hunain a chymryd eu sbwriel i un o’n Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref, yn hytrach na thalu am adnewyddu bin. Ceir rhestr lawn o leoliadau ar dudalen Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref. Ni chaiff unrhyw wastraff ei dderbyn yn CAGC os nad yw wedi cael ei ddidoli felly bydd rhaid i wastraff mewn bagiau gael ei ddidoli i’r gwahanol gynwysyddion deunyddiau.

Beth sy’n digwydd os yw fy min yn cael ei ddifrodi gan y criw casglu neu’n cwympo i gefn y cerbyd casglu?

Os yw cynhwysydd wedi ei ddifrodi ac mai bai criw casglu’r Cyngor yw hyn, caiff hyn ei gofnodi a chaiff cynhwysydd newydd ei anfon am ddim. Caiff nodyn ei bostio drwy’ch drws yn eich hysbysu o’r hyn sydd wedi digwydd. Nid yw hyn yn cynnwys difrod a achosir wrth orlenwi’r cynhwysydd, gosod eitemau anaddas ynddo neu draul gyffredinol yn dilyn ei ddefnyddio’n rhesymol.

Rwyf wedi symud tŷ a does dim cynwysyddion yn fy nghyfeiriad newydd, oes raid i mi dalu am fy miniau?

Oes, mae’n rhaid i chi dalu. Os ydych yn rhentu eich tŷ gan landlord preifat neu gymdeithasol gallech fynd ato i dalu am eich bin(iau). Mae’n bosibl y bydd angen i chi ddarllen eich cytundeb tenantiaeth i weld a oes sôn am hyn ynddo.

Sawl bin fydd yn cael ei anfon/ eu hanfon?

Caiff eich bin ei anfon ymhen 10 niwrnod gwaith yn dilyn eich taliad. Ble y bo’n bosibl, caiff y bin ei anfon at gwrtil eich eiddo a bydd nodyn anfon yn cael ei bostio drwy eich drws.

Beth fydd yn digwydd os mai dim ond adnewyddu’r caead neu’r olwynion sydd angen ei wneud?

Os yw’r bin wedi ei ddifrodi mewn unrhyw ffordd, bydd angen ei adnewyddu. Gall biniau diffygiol beri perygl Iechyd a Diogelwch. Bydd biniau sy’n cael eu dychwelyd yn cael eu hanfon i’w hailgylchu.

Allaf i gymryd y cynwysyddion gwastraff gyda mi os fyddaf yn symud tŷ?

Os fyddwch yn symud tŷ, bydd angen i’r biniau aros yn yr eiddo rydych yn symud oddi wrtho. Dylech wirio a oes biniau mewn lle yn yr eiddo rydych yn symud iddo; os nad oes dylech drafod hyn gyda’ch landlord newydd neu’r sawl sy’n gwerthu’r eiddo.

A yw’r tâl yn gymwys i’r holl geisiadau cynwysyddion gwastraff ychwanegol a rhai adnewyddu?

Nac ydy. Mae’r tâl yn gymwys i finiau gwastraff du. Bydd bagiau gwastraff gardd a chynwysyddion ailgylchu eraill yn cael eu hadnewyddu am ddim. Bydd y tâl yn gymwys i bob bin gaiff ei adnewyddu yr ydych yn gofyn amdano os fyddwch yn parhau i’w colli neu eu difrodi.

Mae angen bin arnaf ond ni allaf dalu ar hyn o bryd, beth ddylwn i ei wneud?

Yn anffodus, ni fyddwn yn gallu darparu adnewyddiad o’r bin na bin ychwanegol cyn derbyn taliad a bydd angen i chi gael gwared â’ch gwastraff yn gyfreithlon yn y cyfamser.

Allaf i dalu mewn rhan daliadau?

Ni allwn dderbyn taliad rhannol a dim ond ar ôl derbyn y taliad llawn y gall cynhwysydd gael ei drosglwyddo atoch chi.

Fydd y criwiau yn dychwelyd y cynwysyddion i’r eiddo ar ôl casglu, achos dyna pryd mae’r cynwysyddion yn mynd ar goll?

Ar ôl gwagio rhaid i’r holl griwiau ddychwelyd y cynwysyddion i’r fan y cafodd y cynhwysydd ei gasglu. Sicrhewch eich bod yn rhifo’r cynwysyddion yn glir i osgoi ei golli ac i’ch helpu chi a’r criwiau ddynodi pa gyfeiriad y mae’r cynhwysydd yn ‘perthyn’ iddo.

Beth os rwy’n gweld fy nghymydog yn cymryd fy nghynhwysydd i mewn i’w eiddo?

Rhaid i chi geisio cael eich cynhwysydd yn ôl yn gyntaf drwy siarad gyda’ch cymydog ac os yw hynny’n aflwyddiannus cysylltwch â’r Heddlu.

Mae fy nghynhwysydd wedi hollti, a fydd rhaid i mi dalu am y cynhwysydd o hyd?

Bydd

Nid wyf yn barod i brynu cynhwysydd a byddaf yn rhoi bagiau du allan i’w casglu ar ddiwrnod casglu – a gaiff y rhain eu casglu?

Ni chaiff y gwastraff hwn ei gasglu gan griwiau a bydd yn cael ei archwilio gan ein Wardeniaid gorfodi a gallai hyn arwain at erlyniad. Bydd hysbysiad Adran 46 yn cael ei gyflwyno i chi o dan Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd 1990 a / neu unrhyw ddeddfwriaeth berthnasol. Gallai methu â chydymffurfio â’r hysbysiad hwn arwain at gyflwyno hysbysiad cosb benodedig a / neu erlyniad o ran y Cyngor.

Oes yna ostyngiadau ar gyfer Pensiynwyr neu hawlwyr budd-daliadau?

Nac oes, does dim consesiynau.

Allaf i gael mwy nag un bin?

Na allwch

Y mwyafswm casglu ar gyfer pob eiddo yw un bin 140l. Gall preswylwyr o dan amgylchiadau eithriadol wneud cais am fin mwy o faint 240l.

Os ydych wedi symud i eiddo newydd, neu fod eich bin/cynhwysydd ailgylchu wedi mynd ar goll, ei ddwyn neu ei ddifrodi, gallwch roi gwybod i ni drwy gwblhau’r ffurflen 'cais am fin sbwriel / cynhwysydd ailgylchu', a gallwn anfon cynhwysydd newydd atoch, ar gael am ddim ar ofyn.

Cynwysyddion Ailgylchu

Rydym yn annog deiliaid tai i ailgylchu gymaint ag sy’n bosibl, felly mae blychau ailgylchu amldro, sachau amldro, sachau gardd amldro, a biniau bwyd, cadi cegin a bagiau cadi cegin ar gael am ddim ar ofyn.

Bin Newydd

Gall pob deiliad tŷ gael 1 bin olwynion 1 x 140 litr wedi ei wagio bob pythefnos. Bydd unrhyw fin ychwanegol a gyflwynir wrth yr eiddo yn cael ei symud i ffwrdd.

Mae biniau sbwriel wedi eu cynllunio i gael eu gwagio’n ddiogel o’r safle â’r caead ar gau, sy’n helpu osgoi unrhyw ddamweiniau dianghenraid yn ystod y casglu; felly rhaid gwrthod unrhyw finiau gorlawn, ac ni fyddant yn cael eu gwagio.

Gall gorlwytho biniau sbwriel a/neu gyflwyno gwastraff wrth ymyl y bin i’w gasglu arwain at weithredu pellach yn cael ei gymryd yn erbyn deiliad y tŷ - os ydych chi’n gorlwytho eich bin sbwriel neu’n gosod gwastraff wrth ymyl y bin i’w gasglu byddwch yn cael tag coch ar y bin yn rhoi gwybod i chi am y rhesymau pam na chafodd eich gwastraff ei gasglu, â llythyr esboniadol i ddilyn a fydd yn arwain at ddechrau achos cyfreithiol os caiff unrhyw droseddau pellach eu cyflawni.

Os ydych yn ddeiliad cartref mawr a’ch bod yn defnyddio’r gwasanaeth ailgylchu a gwastraff bwyd wythnosol i’r eithaf, gallwch ofyn am fin mwy o faint ar gyfer gwastraff na ellir ei ailgylchu. Gallwch wneud hyn drwy ein ffurflen cais archwilio bin.