Ar-lein, Mae'n arbed amser
Casgliad Rwbel Swmpus
Mae ein gwasanaeth rwbel swmpus bellach ar gael ar gyfer symiau mawr o rwbel a gynhyrchir gan gartrefi sy'n gwneud mân welliannau i'r cartref. Bydd rwbel yn cael ei gasglu wrth ymyl y ffordd mewn sachau tunnell a ddarperir gan y cyngor. Gellir archebu uchafswm o un sach dunnell a'i osod allan i'w gasglu.
Cysylltwch â ni ar 01685 725000 neu wasteservices@merthyr.gov.uk am gyngor pellach.
Talu am gasgliadau
Gellir dod o hyd i'r tâl am y gwasanaeth hwn ar ein tudalen Ffioedd a Thaliadau: https://www.merthyr.gov.uk/resident/fees-and-charges/
Casgliadau a Gollwyd
- Os na chaiff eich eitem/eitemau eu casglu am unrhyw reswm (megis tywydd garw neu gerbyd wedi torri lawr) byddwn yn ceisio cysylltu â chi gan ddefnyddio'r manylion cyswllt a ddarparwyd i ni wrth wneud y cais.
- Gwneir pob ymdrech i gasglu ar y diwrnod gwaith nesaf
Ad-daliadau ar gyfer canslo
Gellir prosesu ad-daliadau dim ond os bydd cais yn cael ei dderbyn gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful fwy na 2 ddiwrnod gwaith cyn y casgliad a drefnwyd.
Gallwch hefyd fynd â rwbel i'ch Canolfan Ailgylchu Cartref leol (HRC). Sylwch y bydd angen trwydded arnoch os ydych yn defnyddio fan i ymweld â'r GALl.