Ar-lein, Mae'n arbed amser

Ail-ddefnyddiwch / Atal Gwastraff

Os ydych erioed wedi meddwl “Gallai rhywun arall ddefnyddio hwn”, peidiwch â’i daflu yn y bin – rhowch yr eitem i’n partner, ‘Siop Bywyd Newydd’, y siop elusen sy’n ail-ddefnyddio.

Pan fyddwch yn ymweld â’n Canolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref byddwch yn gweld bod adnodd sy’n caniatáu i chi roi eitemau a all gael eu hail-ddefnyddio, i’r siop (chwiliwch am yr arwyddion).

Gall ‘Siop Bywyd Newydd’ gymryd celfi mewn cyflwr gweddol fel soffas, byrddau, cadeiriau yn ogystal ag eitemau trydanol sy’n gweithio megis teledu, tostiwr, teganau, beiciau – offer chwaraeon. Un rhywbeth, bron.

Bydd eich eitemau’n cael eu tacluso (ac os ydynt yn eitemau trydanol byddant yn cael eu profi er mwyn sicrhau eu bod yn ddiogel), ac yna’n cael eu gwerthi gan ein partner, sef siop elusen sy’n cael ei chynnal a’i rheoli gan Wastesavers.

Menter Gymdeithasol ac elusen gofrestredig yw Wastesavers sydd wedi ymroi i gynaladwyaeth gymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd. Mae’r elusen yn sicrhau bod gan bobl gelfi ac offer TG drwy wneud rhoddion drwy sefydliadau lleol i deuluoedd ac unigonion sydd mewn angen.

Crëwyd tair swydd newydd gan ‘Siop Bywyd Newydd’ ym Mhentrebach ynghyd â nifer o gyfleoedd i wirfoddoli. (Cysylltwch â’r siop yn uniongyrchol os hoffech wirfoddoli).

Mae’r siop ar agor i bawb, heb gyfyngiadau.

Siop Bywyd Newydd. Uned 20, Parc Diwydiannol Merthyr Tudful, Pentrebach, Merthyr Tudful CF48 4DR

Ffôn:  07827 519 325

Ar agor chwe diwrnod yr wythnos

Dydd llun – Ddydd Gwener 9:30 – 16:30

Dydd Sadwrn 9:30 – 16:00

Cysylltwch â Ni