Ar-lein, Mae'n arbed amser
Cofebion
Er mwyn gosod cofeb mae angen prynu Hawliau Neilltuedig Claddu y bedd/llain. Dim ond seiri maen cofrestredig gyda’r Gofrestr Brydeinig o Seiri Maen Cofebion Achrededig (BRAMM) sydd â chaniatâd i atgyweirio cofebion ym mynwentydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful.
Cyfrifoldeb am y Gofeb
Mae’r rhestr ganlynol yn cynnwys nifer o gyfrifoldebau allweddol yr ydych yn eu derbyn wrth gael gosod cofeb yn y fynwent.
- Mae’r gofeb yn parhau i fod yn eiddo i’w berchnogion ac nid yw’n eiddo neu’n gyfrifoldeb i'r Awdurdod Lleol.
- Cyfrifoldeb y perchennog yw sicrhau bod y gofeb yn cael ei chynnal mewn cyflwr diogel na fydd yn creu perygl i staff y fynwent neu i ymwelwyr. Felly, rydym yn disgwyl i berchnogion cofebion wirio'n rheolaidd er mwyn sicrhau bod eu cofeb yn parhau i fod yn ddiogel. Efallai y byddwch am drafod gwaith cynnal a chadw parhaus y gofeb gyda’r Saer Maen Cofebion.
- Os bydd y gofeb yn cael ei fandaleiddio, sydd, yn ffodus iawn, yn ddigwyddiad prin iawn, nid yw’r Awdurdod yn derbyn unrhyw atebolrwydd.
Mae’r Cyngor yn cadw’r hawl i ddileu unrhyw gofeb anawdurdodedig neu addurniadau a osodir yn y fynwent.
Gall glanhau/golchi sylfaenol a glanhau nad yw'n arbenigol gael ei wneud gan unrhyw berson.
Rheoliadau
- Dim ond 1 gofeb a ganiateir fesul gofod bedd.
- Dim slabiau/placiau ar adrannau traddodiadol neu lawnt oni bai y codir ar sylfeini rheoleiddio. Rhaid i sylfeini fod o gerrig caled naturiol neu concrid cyfnerth (Rhaid i GRC neu atgyfnerthiad dur gydymffurfio â Safon Brydeinig berthnasol).
- Rhaid i ddeunyddiau fod o garreg naturiol yn unol â chod ymarfer gwaith NAMM.
- Caniateir pob lliw.
- Pob gwaith i’w gwblhau yn unol â Chod Ymarfer Gwaith NAMM (COWP)/BS8415.
- Rhaid i bob Saer Maen Cofebion fod wedi’i gofrestru gyda BRAMM.Rhaid i bob Gosodwr Coffa fod yn Atgyweiriwr BRAMM Trwyddedig.
- Derbynnir holl gynlluniau yn unol â'r rheoliadau Cofebion.
- Mae’r Adran Gwasanaethau Profedigaeth CBSMT yn cadw’r hawl i wrthod ceisiadau am drwyddedau os ydynt yn amhriodol i’r rheoliadau a osodwyd.
- Mae pob arysgrif ychwanegol/gwaith adnewyddu i gael eu hail-osod ar NAMM COWP/BS8415 cyfredol.
- Pob cofeb aflwyddiannus i gael eu hail-osod i NAMM COWP/BS8415 cyfredol.
- Mae’n ofynnol i gael trwydded ar gyfer pob gwaith (h.y. newydd, ychwanegiadau, ail sefydlogi, adnewyddu, amnewid, gosodion NAMM, potiau a lletemau).
- Rhif Bedd a * i gael eu marcio’n glir ar gefn y cofebion, gydag enw’r cwmni os dymunir.
- Ni fydd unrhyw gofebion yn cael eu caniatáu ar fedd tan 20 wythnos wedi'r gladdedigaeth, ac eithrio lleiniau amlosgi a beddau o frics.
- Bydd llythrennau sarhaus yn cael ei wrthod.
- Mae CBSMT yn cadw’r hawl i wrthod arysgrifau gyda geiriad amhriodol.
- Rhaid i bob cofeb (ac eithrio'r rhai yn GOR) gael eu gosod gyda chludwyr lle bo hynny’n bosibl.
- Dim gwaith cofeb i gael ei wneud tu allan i oriau gwaith arferol CBSMT h.y. Llun i Iau 8:00 a.m. i 4:00a.m. a Gwener 8:00a.m i 3:30p.m.
- Caniateir blociau fas ar sylfaen, heb fod yn fwy na 8” x 8”.
- Uchafswm maint a ganiateir ar gyfer potiau ychwanegol 12” x 12” x 12”.
- Dylai teuluoedd wybod os caiff pot neu letem eu rhoi ar ofod bedd, bydd yr Awdurdod Lleol yn tynnu ei wasanaeth torri gwair ar y gofod bedd arbennig.
- Bydd unrhyw achos o dorri’r rheoliadau uchod yn arwain at gamau disgyblu.
- Uchafswm maint a ganiateir ar gyfer lletemau/D.V.T. 30” x 24” x 4”.
O dan gyfarwyddyd Iechyd a Diogelwch, mae rhaglen profi diogelwch cofebion ar y gweill ar draws y mynwentydd.