Ar-lein, Mae'n arbed amser

Cofrestru Genedigaeth

Cofrestru Genedigaeth

Llongyfarchiadau mawr i chi!

SYLWER: MAE’R SWYDDFA YN GWEITHREDU SYSTEM APWYNTIAD, FELLY FFONIWCH I WNEUD APWYNTIAD I GOFRESTRU EICH BABI.

Swyddfa Gofrestru Merthyr Tudful

Tŷ Penderyn
26 Stryd Fawr
Merthyr Tudful
CF47 8DP
Ffôn: 01685 727333

Ein Hamserau Agor yw:

Llun - Iau
Bore, 8.30a.m. - 12.30p.m. Prynhawn, 1.00a.m. - 4.00p.m. 

Gwener
Bore, 8.30a.m. - 12.30p.m. Prynhawn, 1.00a.m. - 3.30p.m.

Cwestiynau

  • Pwy all gofrestru’r enedigaeth
  • Pa mor fuan a allaf gofrestru genedigaeth y baban a ble ddylwn i gofrestru
  • Oes rhaid i mi ddod i Swyddfa Gofrestru Merthyr Tudful i gofrestru’r enedigaeth
  • Pa wybodaeth sydd angen i mi ei ddarparu?
  • Beth am dystysgrifau geni
  • Nid wyf yn siarad Saesneg – all ffrind gofrestru i mi
  • A allaf newid y cofnod geni yn ddiweddarach
  • Beth am gyfrifoldeb Rhieni
  • Pam fyddwn i yn ail-gofrestru fy mhlentyn?

Pwy all gofrestru genedigaeth?

Os yw rhieni’r plant yn briod neu mewn partneriaeth sifil â’i gilydd ar adeg yr enedigaeth, gall naill ai’r fam, tad neu ail riant benywaidd gofrestru’r enedigaeth.

Os nad oedd y rhieni’n briod neu mewn partneriaeth sifil â’i gilydd ar adeg yr enedigaeth, gall manylion y tad neu ail riant benywaidd yn unig gael ei gofnodi yn y gofrestr lle:

Mae’r ddau riant yn mynychu gyda’i gilydd i gofrestru’r enedigaeth, neu os yw’r tad neu’r ail riant benywaidd yn gallu bod yn bresennol gyda’r fam, gall datganiad statudol gael ei gwblhau (cysylltwch â’r swyddfa hon am fwy o wybodaeth).

Ar gyfer unrhyw amgylchiadau eraill, cysylltwch â’r swyddfa gofrestru am gyngor pellach.

Os nad oedd y fam mewn priodas neu bartneriaeth sifil gyda rhiant arall y plentyn ar adeg yr enedigaeth ac nad yw eu manylion yn cael eu cofnodi ar adeg y cofrestru, gellir ychwanegu eu manylion yn ddiweddarach. (Gweler ‘Pam fyddwn i yn ail-gofrestru fy mhlentyn?’)

Pa mor fuan a allaf gofrestru genedigaeth y baban a ble ddylwn i gofrestru?

Gallwch gofrestru genedigaeth y babi cyn gynted ag y byddwch eisiau neu'n gallu, ond mae’n ofyniad cyfreithiol i gofrestru o fewn 42 diwrnod i’r enedigaeth. Rhaid i’r enedigaeth gael ei gofrestru o fewn yr ardal gofrestru lle y digwyddodd. Mae hyn yn golygu os yw eich baban yn cael ei eni o fewn Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, rhaid i’r cofrestriad gael ei wneud yn y swyddfa canlynol drwy apwyntiad yn unig:

Swyddfa Gofrestru Merthyr Tydfil

Oes rhaid i mi ddod i Swyddfa Gofrestru Merthyr Tudful i gofrestru genedigaeth?

Er bod yn rhaid i’r enedigaeth gael ei chofrestru o fewn 42 diwrnod, os yw’n anymarferol i chi ymweld â’r Swyddfa Gofrestru ym Merthyr Tudful gallwch fynd i swyddfa arall yng Nghymru neu Loegr i weld y Cofrestrydd yno.

Gelwir y broses hon yn broses Cofrestru Genedigaeth trwy Ddatganiad. Bydd angen i chi wneud apwyntiad yn y swyddfa y byddwch yn dewis ei mynychu. Bydd y Cofrestrydd sy’n eich gweld yn anfon y wybodaeth i Ferthyr Tudful.

Cofiwch os ydych yn dewis cofrestru eich baban yn y ffordd hon y bydd yn cymryd mwy o amser na’r broses arferol ac ni fyddwch yn cael y dystysgrif geni ar unwaith.

Pa wybodaeth sydd angen i mi ei ddarparu?

Bydd angen i chi roi’r wybodaeth ganlynol i’r Cofrestrydd:

Am y Baban

  • Dyddiad a man geni eich babi, bydd amser geni yn ofynnol os yw’r babi yn efeilliaid neu dripledi ac ati.
  • Enw(au) cyntaf a chyfenw y disgwylir y bydd y baban yn ei ddefnyddio.

Gwybodaeth am y Fam

  • Enw(au) llawn a chyfenw a ddefnyddir ar adeg yr enedigaeth (enw cyn priodi os yw’r fam, neu erioed wedi bod, yn briod neu mewn partneriaeth sifil)
  • Ei dyddiad a man geni
  • Ei chyfeiriad arferol ar ddyddiad y geni
  • Ei galwedigaeth
  • Gofynnir am wybodaeth ystadegol bellach, rhai ohonynt yn wirfoddol 
  • Dylai dogfennau ategol gael eu darparu i helpu gyda’r cofrestru (tystysgrif geni, pasbort, tystysgrif priodas/partneriaeth sifil, prawf o gyfeiriad)

Gwybodaeth am y Tad/Ail Riant Benywaidd (lle mae’r manylion hyn i’w cael i’w cofnodi yn y gofrestr)

  • Ei enw/henw a chyfenw
  • Ei dyddiad a man geni ef/hi
  • Ei alwedigaeth/galwedigaeth
  • Gofynnir am wybodaeth ystadegol bellach, rhai ohonynt yn wirfoddol
  • Dogfennau ategol fel yr uchod

Nodyn: (os nad yw manylion y tad/ail riant benywaidd yn cael eu cofnodi ar adeg y cofrestru, gellir eu cofnodi yn nes ymlaen, ond dim ond mewn rhai amgylchiadau)

Y dogfennau y bydd angen i chi ddod gyda chi

 Er mwyn ein helpu i sicrhau ein bod yn cofnodi genedigaethau’n gywir dylech ddod â rhai o’r dogfennau a ganlyn gyda chi i gadarnhau manylion y rhieni. Bydd y cofrestryddion yn cadarnhau'r dogfennau sydd angen pan fyddwch yn gwneud yr apwyntiad i gofrestru:

  • Bil y dreth cyngor
  • Trwydded yrru
  • Pasbort
  • Pob tystysgrif priodas/partneriaeth sifil y rhieni gan gynnwys priodasau neu bartneriaethau sifil blaenorol
  • Tystysgrif geni
  • Dogfennau neu weithredoedd yn dangos newid enw
  • Unrhyw ddogfennau sy’n gallu cadarnhau’r wybodaeth a fydd yn cael ei chofrestru

 Lle bynnag y mae hynny’n bosib, dylech ddarparu dogfennau i sicrhau fod ein cofnodion yn gywir.

Beth am dystysgrifau geni?

Mae’r dystysgrif geni 'byr' yn dangos enw, cyfenw, rhyw'r babi, dyddiad geni a’r rhanbarth ac is-ddosbarth cofrestru.

Bydd y dystysgrif geni ‘llawn’ yn dangos yr holl fanylion uchod ynghyd â manylion y rhiant a man geni. Bydd y dystysgrif hon yn ofynnol os ydych yn dymuno gwneud cais am basbort ar gyfer y babi.

Gellir prynu tystysgrifau am y ffioedd canlynol:

  • Tystysgrif Geni Fer/Tystysgrif Geni Lawn
  • £12.50

Dydw i ddim yn siarad Saesneg – a all ffrind gofrestru i mi?

Os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf, mae croeso i chi ofyn i ffrind neu berthynas fynd gyda chi i helpu gyda’r cofrestriad.

Cofiwch, fodd bynnag, bod yn rhaid i’r enedigaeth gael ei chofrestru gan unigolyn cymwys (fel arfer y fam) ac ni all cyfaill gofrestru ar eich rhan.

A allaf newid y cofnod geni yn ddiweddarach?

Cysylltwch â’r Swyddfa Gofrestru a fydd yn ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych ynglŷn â newid cofnod.

Beth am gyfrifoldeb Rhieni?

Mae gan fam y plentyn, a’r tad os yw’n briod â’r fam, neu ail riant benywaidd os mewn partneriaeth sifil gyda’r fam, gyfrifoldeb rhiant yn awtomatig. Lle nad yw’r rhieni yn briod â’i gilydd neu mewn partneriaeth sifil, bydd y tad/ail riant benywaidd gael cyfrifoldeb rhiant os yw ef/hi yn gweithredu gyda’r fam i gael ei enw/henw a gofnodwyd yng nghofrestr genedigaeth y plentyn ar ôl 1 Rhagfyr 2003.

Gall tad dibriod, neu ail riant benywaidd ddim mewn partneriaeth sifil, hefyd gael cyfrifoldeb rhiant trwy briodi’n ddiweddarach neu fod mewn partneriaeth sifil â mam y plentyn, trwy wneud cytundeb cyfrifoldeb rhiant gyda hi, drwy gael gorchymyn llys, neu os na chafodd ei fanylion ef/hi eu cofnodi ar y cofrestriad ar adeg yr enedigaeth, drwy ail-gofrestru.

Os oes angen gwybodaeth neu gyngor pellach, dylech ffonio Parentline Plus ar 0808 800 2222, ffôn testun 0800 783 6783, neu gael cyngor cyfreithiol.

Pam fyddwn i yn ail-gofrestru fy mhlentyn?

Os yw’r rhieni wedi priodi neu ffurfio partneriaeth sifil gyda'i gilydd ers yr enedigaeth, bydd angen ail-gofrestru fel y gall cofnod geni newydd gael ei greu i ddangos y plentyn fel plentyn o briodas/partneriaeth sifil y rhiant.

Os nad yw’r rhieni wedi priodi ac yn dymuno ychwanegu manylion y tad naturiol ar y cofnod geni, bydd angen ail-gofrestru fel y gall cofnod geni newydd gael ei gre i gymryd lle’r un gwreiddiol.

Gellir ail-gofrestru fod yn ofynnol mewn amgylchiadau eraill, cysylltwch â’r Swyddfa Gofrestru am fanylion pellach.

I gael rhagor o wybodaeth am newid enw trwy weithred newid enw, ewch i wefan Gweithred Newid Enw DU drwy ddilyn y ddolen ar y dde o’r dudalen hon o dan y cyswllt Dolenni Allanol.

Cysylltwch â Ni

Oeddech chi’n chwilio am?