Ar-lein, Mae'n arbed amser

Cymorth i deuluoedd sydd â phlant

Yr Hyb Cymorth Cynnar

Mae'r Hyb Cymorth Cynnar yn cynnig gwasanaethau cymorth i deuluoedd â phlant 0-18 oed.  Gall yr Hyb Cymorth Cynnar gynnig cymorth gyda thai, cyllid, addysg, rhianta ac iechyd. Mae'n ymwneud â darparu cefnogaeth i chi a'ch teulu cyfan. Gweler y daflen isod am fwy o wybodaeth.

Wedi'i ymgorffori yn yr Hyb Cymorth Cynnar mae'r Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd (FIS); gwasanaeth diduedd, am ddim sy'n cynnig cymorth, cefnogaeth a chyngor gydag ystod o wasanaethau lleol. Mae’r FIS yn cefnogi teuluoedd trwy eu cyfeirio at wybodaeth a gwasanaethau defnyddiol. Mae Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Merthyr Tudful yn darparu gwybodaeth am ofal plant, grwpiau rhieni a phlant bach, gwasanaethau hamdden lleol, cymorth ariannol gyda gofal plant, addysg, hyfforddiant a gofal iechyd. Edrychwch ar wefan FIS i gael rhagor o wybodaeth.

Gallwch hefyd ymweld â Dewis Cymru - 'y lle ar gyfer Llesiant yng Nghymru', os ydych chi eisiau gwybodaeth neu gyngor am eich lles neu eisiau gwybod sut y gallwch chi helpu rhywun arall.

Gellir cyrchu gwasanaethau canlynol Teuluoedd yn Gyntaf trwy'r Hyb Cymorth Cynnar neu'n uniongyrchol trwy'r dolenni canlynol:

STEP (Tîm Cymorth i Rhymuso Rhieni)
https://www.dewis.wales/ResourceDirectory/ViewResource.aspx?id=13780

Barnardos- Cymorth i Deuluoedd
https://www.dewis.wales/ResourceDirectory/ViewResource.aspx?id=13769

Cymorth Ieuenctid wedi'i Dargedu
https://www.dewis.wales/ResourceDirectory/ViewResource.aspx?id=13782

Datblygiad Iaith Cynnar
https://www.dewis.wales/ResourceDirectory/ViewResource.aspx?id=13767

Cymorth Iechyd Gwell y Blynyddoedd Cynnar https://www.dewis.wales/ResourceDirectory/ViewResource.aspx?id=13763

Cymorth Cymheiriaid Rhieni
https://www.dewis.wales/ResourceDirectory/ViewResource.aspx?id=13783

Banc Babanod Dewi Sant
https://www.merthyrtydfilministryarea.co.uk/st-davids-baby-bank

Iechyd Gwell: https://www.dewis.wales/ResourceDirectory/ViewResource.aspx?id=13768

Gwasanaeth Cynghori y Gyfnewidfa  Integredig:
https://www.dewis.wales/ResourceDirectory/ViewResource.aspx?id=13778

Iechyd Emosiynol Cynradd
https://www.dewis.wales/ResourceDirectory/ViewResource.aspx?id=13781

Grant Prydau Ysgol/Datblygu Disgyblion am Ddim

Darganfyddwch yma  os gallwch fod yn gymwys i gael help gyda chost prydau ysgol, gwisg ysgol ac offer ysgol drwy wneud cais am Brydau Ysgol am Ddim/Mynediad GDD.

Cymorth ariannol i deuluoedd

Bydd y dolenni isod yn mynd â chi i dudalennau eraill ar y wefan lle y gallwch ddod o hyd i wybodaeth am:

Budd-daliadau a Grantiau

Budd-dal Tai

Dysgu ym Merthyr Tudful

Gwasanaeth y Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant

Blynyddoedd Cynnar a Dechrau'n Deg

Cynnig Gofal Plant i Gymru

Gallai'r rhan fwyaf o rieni plant 3 neu 4 oed sy'n gweithio fod yn cael cymorth gan y llywodraeth gyda chostau gofal plant.

O dan Gynnig Gofal Plant Cymru, gallech hawlio, yng Nghymru 30 awr yr wythnos o addysg gynnar a gofal plant, am hyd at 48 wythnos o'r flwyddyn. Ei nod yw gwneud bywyd ychydig yn haws i rieni trwy gynnig help gyda chostau gofal plant.

Gwiriwch Gynnig Llywodraeth Cymru am wybodaeth.

Dod o hyd i'ch banc bwyd agosaf

Mae Banc Bwyd Merthyr Cynon yn darparu bwyd brys am dridiau i bobl mewn argyfwng.

Ewch i'w gwefan Banc Bwyd Merthyr Cynon.

Canolfan Cyngor ar Bopeth (Cymru)

Mae'r Ganolfan Cyngor ar Bopeth yn elusen gofrestredig sy'n cynnig cyngor annibynnol, cyfrinachol a diduedd, am ddim ac yn ymgyrchu ar faterion mawr sy'n effeithio ar fywydau pobl.

Ewch i'w gwefan Canolfan Cyngor ar Bopeth.

Cysylltwch â Ni