Ar-lein, Mae'n arbed amser

Gostyngiadau i fand treth gyngor pobl anabl

Os oes angen ystafell, neu ystafell ymolchi, neu gegin ychwanegol arnoch chi, neu rywun sy'n byw gyda chi, neu le ychwanegol yn eich eiddo i ddiwallu anghenion arbennig sy'n deillio o anabledd parhaol, efallai y bydd gennych hawl i ostyngiad yn eich atebolrwydd Treth Gyngor.

Gellid gostwng eich Gorchymyn Treth Gyngor i fod cyfwerth ag eiddo yn y band nesaf i lawr yn y rhestr brisio (gall hyn hefyd fod yn gymwys i eiddo ym Mand A).

Mae’r gostyngiadau hyn yn sicrhau nad yw pobl anabl yn talu mwy o Dreth Gyngor oherwydd bod angen lle ychwanegol yn sgil anabledd.

 

Cysylltwch â Ni

Oeddech chi’n chwilio am?