Ar-lein, Mae'n arbed amser

Eithriadau i Dreth Gyngor

A ddylai’ch eiddo gael ei ryddhau rhag talu’r Dreth Gyngor?

Mae rhai eiddo yn cael eu rhyddhau rhag talu’r Dreth Gyngor. Mae cyfyngiadau amser ar gyfer pa mor hir y gellir caniatáu rhai o'r eithriadau. Os ydych o’r farn y dylai eich eiddo gael ei ryddhau o’r Dreth Gyngor, cysylltwch â ni am gyngor am sut i wneud cais. Efallai y byddwn yn gofyn ichi ddarparu rhywfaint o dystiolaeth ategol ond byddwn yn dweud wrthych am hyn pan fyddwch yn siarad â ni.

Gall eiddo gael ei ryddhau o’r Dreth Gyngor os:

  • oes myfyrwyr yn preswylio ynddo
  • oes nam meddyliol difrifol gan yr holl breswylwyr
  • yw’r holl breswylwyr yn iau na 18 oed
  • yw’r eiddo yn atodiad at gartref teuluol ac mae perthnasau oedrannus neu anabl y teulu yn preswylio yno (gelwir yn ‘fflat mam-gu’ yn aml)
  • oes o leiaf un o’r bobl sy’n gymwys i dalu’r Dreth Gyngor yn ddiplomydd tramor
  • oes o leiaf un o’r bobl sy’n gymwys i dalu’r Dreth Gyngor yn aelod o lu sy’n ymweld
  • Yn cael ei feddiannu gan Ymadawr Gofal / Ymadawyr Gofal yn unig hyd at eu Pen-blwydd 25 oed

Gall eiddo gwag gael ei ryddhau o’r Dreth Gyngor os:

  •  Yw’n ofynnol ei fod yn cael, neu ei fod yn cael atgyweiriadau mawr neu ei fod yn ymgymryd ag addasiadau strwythurol (dim mwy na 12 mis) (defnyddiwch y ddolen ganlynol i wneud cais am eithriad Annedd Eithriedig)
  • Bod person yn preswylio yno a oedd yn gymwys am y Dreth Gyngor ond ei fod wedi marw ac nid yw llythyrau gweinyddiad na phrofeb wedi eu caniatáu eto yn dilyn y farwolaeth.
  • Dan berchnogaeth elusen
  • Heb ei ddodrefnu (am o leiaf 6 mis)
  • Wedi ei adael yn wag gan rywun sydd wedi mynd i’r carchar, canolfan gadw neu ysbyty diogel
  • Gadawyd yn wag gan rywun sydd wedi symud allan i ddarparu gofal personol i berson arall (Os yw'n berthnasol, cwblhewch y ffurflen ar-lein ar y ddolen ganlynol - Treth Gyngor - Hysbysiad o Dderbyniad i Gartref Gofal neu Ysbyty)
  • Yn wag oherwydd bod preswylio wedi ei wahardd yn gyfreithlon
  • Yw’n aros i weinidog yr efengyl breswylio ynddo
  • Mae wedi ei adael yn wag gan rywun sydd wedi symud allan i ddarparu gofal personol i berson arall
  • Mae o dan berchnogaeth myfyriwr ac mai myfyriwr oedd y preswylydd diwethaf
  • Mae wedi cael ei adfeddiannu
  • Mae'n gyfrifoldeb i ymddiriedolwr sydd wedi mynd yn fethdalwr
  • Mae'n safle ar gyfer carafán neu gartref symudol neu’n angorfan i gwch

Eiddo sy’n wag a heb ei ddodrefnu

O dan reoliadau treth y cyngor, mae cartref wag (h.y. heb ei meddiannu a heb ddodrefn) wedi'i heithrio o'r Dreth Gyngor am uchafswm o chwe mis o'r diwrnod y daeth yn wag. NB mae cyfnod yr eithriad yn cychwyn o'r dyddiad y cychwynnodd y gwacter gwaeth beth fo unrhyw newidiadau mewn atebolrwydd neu berchnogaeth.

Ystyrir bod eiddo yn ‘wag tymor-hir’ unwaith y bydd y gwacter wedi bod yn fwy na chwe mis (neu 12 mis os yw hefyd yn gofyn am / yn cael ei thrwsio’n fawr) ac nad yw’n gymwys i gael dosbarth arall o eithriad rhag y Dreth Gyngor.

Yn ôl y gyfraith, mae'n rhaid i'r polisi ynghylch lefel y gostyngiad Treth Gyngor (os oes un) sydd i'w gymhwyso ar gyfer anheddau gwag tymor-hir (o ystod o 50% i 0%), gael ei bennu ar wahân ar gyfer pob blwyddyn ariannol.

Mewn cyfarfod o’r Cyngor llawn, a gynhaliwyd ddydd Mercher 16 Ionawr 2019, cymeradwywyd penderfyniad na ddylid rhoi gostyngiad ar gyfer anheddau gwag tymor hir yn weithredol o 1 Ebrill 2019 (h.y. bydd tâl llawn yn berthnasol).

Gwnaed y penderfyniad hwn er mwyn annog perchnogion eiddo i beidio â chaniatáu i eiddo gwag aros yn wag am gyfnodau hir gan fod llawer yn dadfeilio, a all gael effaith niweidiol ar eiddo eraill yn eu cyffiniau, o ran gwerth y farchnad ac ansawdd bywyd, a gall hefyd annog ymddygiad gwrthgymdeithasol fel fandaliaeth, taflu sbwriel, sgwatio a throseddu.

Os daw eich eithriad eiddo i ben ar ôl 1 Ebrill 2019 rhoddir rhybudd diwygiedig o'r galw am dreth gyngor i chi ar yr adeg berthnasol i'ch cynghori ynghylch eich rhwymedigaeth treth gyngor newydd.

Eiddo gwag wedi ei ddodrefnu ac ail gartrefi

Nid oes unrhyw ostyngiad ar gyfer eiddo gwag neu ddodrefn neu ail gartrefi oni bai bod un o'r canlynol yn berthnasol:

  • Y mae’n safle gyda charafán ynddo neu lanfa gyda chwch ynddi
  • Mae’r person cymwys hefyd yn berson cymwys mewn eiddo arall sy’n berthnasol i swydd, er enghraifft tafarnwr
  • Pan fo’r person cymwys yn aelod o’r lluoedd arfog a bod cartref arall wedi ei ddarparu ar ei gyfer gan y Weinyddiaeth Amddiffyn

Gwneud cais am ryddhad

Ar gyfer myfyrwyr a’r sawl sydd â nam meddyliol difrifol gallwch wneud cais ar-lein: Mynediad at eich cyfrif Treth Gyngor eich hun ar-lein.

Nodir: tra'ch bod yn aros i glywed canlyniad cais am eithriad, mae rhaid i chi barhau i dalu'ch bil cyfredol, os ydych chi'n ei chael hi'n anodd mae rhaid i chi gysylltu â ni ar unwaith.

Ar ôl caniatáu rhyddhad

Os yw cost y Dreth Gyngor yn cael ei ostwng caiff bil newydd ei gyflwyno sy’n dangos faint i’w dalu.

Os gafodd rhyddhad ei ganiatáu, byddwn yn gwirio o bryd i’w gilydd i weld a ddylai barhau yn cynnwys gwiriadau gyda sefydliadau allanol fel asiantaethau credyd. Mae’n bosibl y byddwn yn gofyn i chi ddarparu gwybodaeth neu dystiolaeth sy’n ein helpu ni i wneud hyn. Gall methu â darparu’r wybodaeth hon olygu fod y rhyddhad yn cael ei ganslo.

Cofiwch os yw’r amgylchiadau sy’n berthnasol i’r rhyddhad yn newid mae’n rhaid i chi ddweud wrthym ar unwaith.

Gwneud Cais 

Cysylltwch â Ni