Ar-lein, Mae'n arbed amser
Taliadau’r Dreth Gyngor
Er mwyn talu’r Dreth Gyngor gallwch sefydlu debyd uniongyrchol, talu ar-lein neu ddod o hyd i ffyrdd eraill o dalu.
Debydau Uniongyrchol
Gellir sefydlu Debyd Uniongyrchol yn gyflym ac yn hawdd drwy eich cyfrif Treth Gyngor.
Byddwch angen:
- Eich rhif Treth Gyngor
- Enw eich Banc neu Gymdeithas Adeiladu, cangen a rhif didoli
- Eich Rhif Cyfrif Banc neu Gymdeithas Adeiladu a’r enw(au) ar y cyfrif
Ar-lein
Mae talu ar-lein yn hawdd ac yn ddiogel drwy ein system talu ar-lein.
Bydd angen eich rhif cyfrif treth gyngor arnoch. Mae hwn ar frig eich bil treth gyngor.
Dros y ffôn
Ffoniwch ni ar 01685 725000.
Gallwch wirio eich cyfrif ar-lein i ddarganfod faint sydd arnoch chi.