Ar-lein, Mae'n arbed amser
Sut mae'r arian a gesglir o Bremiymau y Dreth Gyngor yn cael ei wario?
Ar gyfer y cyfnod ariannol 1 Ebrill 2023 i 31 Mawrth 2024:
- Nifer yr eiddo gwag hirdymor = 364
- Swm yr incwm a gynhyrchir o godi premiwm ar eiddo gwag hirdymor = £322,632
- Sylwch: Nid oes unrhyw incwm premiwm yn cael ei gynhyrchu ar gyfer eiddo wedi'i
ddodrefnu nad sydd yn unig ac ynbrif breswylfa (a elwir yn aml yn ail gartrefi) gan
nad oedd tâl premiwm o fewn y cyfnod ariannol hwn.
Fel y rhan fwyaf o incwm y cyngor, nid yw'n ofynnol i'r symiau a godir o godi premiymau y
Dreth Gyngor gael eu neilltuo i bwrpas penodol. Fodd bynnag, anogir awdurdodau lleol
gan Lywodraeth Cymru i ddefnyddio unrhyw refeniw ychwanegol a gynhyrchir i ddiwallu
anghenion ac amgylchiadau tai lleol yn yr ardal yn unol â bwriadau polisi'r premiymau.
Cyfeirir at yr anghenion tai lleol hyn ym Merthyr Tudful yn Strategaeth y Rhaglen Cymorth
Tai 2022-2026 ac mae'n ymdrin â swyddogaethau amrywiol gan gynnwys cymorth i bobl
ddigartref. Drwy annog perchnogion tai gwag ac ail gartrefi i ystyried defnydd amgen o'u
heiddo, gallwn hefyd annog cynlluniau fel y cynllun prydlesu preifat i ddod ag eiddo yn ôl
i ddefnydd a chynyddu'r cyflenwad o gartrefi yn lleol.
Wrth gwrs, nid yw gwariant ar y materion cysylltiedig hyn yn gyfyngedig i rôl yr adran dai
yn unig. Bydd adrannau eraill hefyd yn cymryd rhan, fel gwasanaethau cymdeithasol ac
iechyd yr amgylchedd.
Camau Gorfodi
Mae premiymau y dreth gyngor yr ydym wedi'u casglu wedi’n galluogi i weithio â
pherchnogion eiddo gwag i'w defnyddio unwaith eto.
Hyd yn hyn, rydym wedi gallu:
Dod â 39 eiddo yn ôl i ddefnydd rhwng 1 Ebrill 2023 a 31 Mawrth 2024 trwy:
- Cyfeirio perchnogion at y cynllun benthyciadau Tai i Gartrefi.
- Paru darpar ddatblygwyr â pherchnogion eiddo gwag.
- Darparu prawf o lythyrau statws gwag ar gyfer gostyngiad TAW ar gostau
adnewyddu.