Ar-lein, Mae'n arbed amser
Ymddygiad gwrthgymdeithasol a niwsans
Defnyddiwch y gwasanaeth hwn i roi gwybod am Ymddygiad Gwrthgymdeithasol.
Mae Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Merthyr Tudful yn bartneriaeth aml asiantaeth sy'n cydweithio i leihau trosedd, anhrefn ac ymddygiad gwrthgymdeithasol trwy Fwrdeistref Sirol Merthyr Tudful. Mae'r Bartneriaeth yn ymroddedig i wneud y fwrdeistref yn lle mwy diogel i fyw, gweithio ac ymweld.
Sefydlwyd y Bartneriaeth o ganlyniad i Ddeddf Trosedd ac Anhrefn 1998 ac mae'n cynnwys partneriaid statudol a sefydliadau sector gwirfoddol.
Mae Partneriaid Statudol yn cynnwys:
- Heddlu De Cymru
- Awdurdod Heddlu De Cymru
- Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful
- Awdurdod Tân De Cymru
- Bwrdd Iechyd Lleol Cwm Taf
- Gwasanaeth Prawf Cymru
Mae cynnwys sefydliadau sector gwirfoddol a chymunedol yn annatod os yw Partneriaeth Diogelwch Cymunedol yn mynd i weithio i'w lawn botensial.
Mae sefydliadau gwirfoddol sy'n rhan o'r Bartneriaeth yn cynnwys:
- Gweithredu Gwirfoddol Merthyr Tudful
- Merthyr Tudful Ddiogelach
- Gwarchod Cymdogaeth
- Cymorth i Ddioddefwyr
- Cymunedau'n Gyntaf
- Drugaid
- Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig, e.e. Cymdeithas Tai Merthyr Tudful; Cartrefi Cwm Merthyr; Tai Hafod; Cymdeithas Tai Wales & West