Ar-lein, Mae'n arbed amser

Teledu Clych Cyfyng

Mae CCTV yn chwarae rhan allweddol yn lleihau trosedd ac anhwylder, gwella diogelwch yn y gymuned a gwella sicrwydd y cyhoedd yn ogystal â chynorthwyo'r heddlu i ymchwilio troseddau.

Mae Ystafell Reoli Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yn monitro dros 70 camera CCTV trwy gydol y Fwrdeistref.

Ble mae camerâu wedi'u lleoli?

Mae'r rhan fwyaf o'r camerâu yn ardal Canol y Dref yn cynnwys y Stryd Fawr, Meysydd Parcio a Llwybr Taf, ac mae'r gweddill yn monitro stadau tai lleol, ysgolion a'r prif ysbytai.

Mae'r gweithredwyr CCTV yn gweithio'n agos gyda Heddlu De Cymru, busnesau lleol ac adrannau eraill CBSMT, yn darparu gwybodaeth sy'n cael ei defnyddio i ganfod ac atal trosedd yn ogystal â chymorth adweitheddol yn ystod digwyddiadau parhaus.

Gweithrediad CCTV

Mae'r cysylltiad rhwng yr Ystafell Reoli a HDC yn digwydd trwy gyfrwng system radio tonnau awyr yr heddlu, sy'n galluogi'r Ystafell Reoli i gysylltu'n uniongyrchol gyda swyddogion gweithredol yr heddlu yn ein helpu i roi gwybod i swyddogion i gael cysylltiad uniongyrchol gyda swyddogion heddlu ar safle digwyddiad.  Mae gan Swyddogion yr Heddlu sydd wedi eu lleoli yn y brif Orsaf Heddlu yng nghanol y dref hefyd yn gallu gweld data byw trwy gyswllt uniongyrchol o'r Ystafell Reoli CCTV.

Hyd yn hyn mae ymhell dros 2,700 o ddigwyddiadau wedi eu dal ar system CCTV Merthyr Tydfil, ac mae wedi bod yn allweddol yn cynorthwyo'r Heddlu i ddal nifer o droseddwyr.

Cysylltwch â Ni