Ar-lein, Mae'n arbed amser
Peryglon Damweiniau Mawr
Efallai bydd angen i'r gwasanaethau brys, y Cyngor ac asiantaethau eraill weithredu mewn ymateb i amrywiaeth eang o ollyngiadau cemegol, tanau a digwyddiadau'n ymwneud â defnyddiau ymbelydrol. Gall y digwyddiadau hyn olygu perygl i iechyd y cyhoedd a/neu lygru'r amgylchedd.
Gall perygl cemegol neu amgylcheddol ddod o amryw o ffynonellau:
- Safle diwydiannol sefydlog (e.e. gwaith cemegol mawr neu orsaf bŵer niwclear)
- Cerbyd neu gynhwysydd ar daith
- Defnydd sydd wedi ei adael ar dir cyhoeddus neu dir preifat.
Efallai y bydd yr wybodaeth Cyngor ar Ddefnyddiau Peryglus (isod) yn ddefnyddiol i chi o ran yr hyn y gallwch ei wneud i ddiogelu eich hun a'ch teulu mewn achos prin o ddigwyddiad yn ymwneud â sylweddau peryglus.
Cyngor ar Ddefnyddiau Peryglus
Os ydych yn byw ger perygl diwydiannol, efallai yr anfonir cerdyn gwybodaeth atoch chi am y safle a beth y dylech ei wneud os fydd argyfwng yno.
Sicrhewch eich bod yn deall beth yw'r rhybudd a'r hyn y dylech ei wneud ar ôl ei dderbyn.
Mewn nifer o achosion yn ymwneud â sylweddau peryglus y cyngor gorau i ddechrau yw:
Ewch i Mewn, Arhoswch i Mewn, Tiwniwch i Mewn
Ewch i Mewn:
- Ewch i mewn i'ch cartref, lan lofft os yn bosib
- Caewch yr holl ddrysau a ffenestri
- Diffoddwch systemau awyru
- Diffoddwch offer nwy
- Rhwystrwch unrhyw ddrafftiau rhag dod i mewn a chaewch unrhyw gaead ar wresogyddion tanwydd solet
Arhoswch i Mewn:
- Arhoswch yn eich cartref ac aros am gyfarwyddiadau pellach
- Byddwch yn barod i gynnig lloches i bobl sy'n mynd heibio
- Peidiwch â mynd i chwilio am ffrindiau neu berthnasau
- Diffoddwch pob fflam e.e. fflamau peilot
- PEIDIWCH â mynd allan nes i chi gael cyngor i wneud hynny gan yr Heddlu. Gydag ymbelydredd, bydd popeth yn edrych yn normal ac ni fyddwch yn gallu gweld, clywed na theimlo unrhyw wahaniaeth
Tiwniwch i Mewn:
- Tiwniwch i mewn i'ch gorsaf radio BBC lleol (92.4 a 103.9 FM) neu'r teledu am wybodaeth bellach. Mae gan y BBC gynlluniau ar gyfer darparu gwybodaeth gyhoeddus mewn argyfwng ac efallai yr hoffech gadw cofnod o amlderau radio lleol
- Byddai hefyd yn synhwyrol i chi sicrhau bod gennych chi radio sy'n cael ei redeg gan fatri a batris sbâr rhag ofn i'r cyflenwad pŵer gael ei dorri
- Peidiwch â defnyddio'r ffôn. Cadwch y llinellau ar gyfer defnydd brys yn unig.