Ar-lein, Mae'n arbed amser

Ymateb i ddigwyddiadau mawr

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful wedi paratoi Cynllun Ymateb i Ddigwyddiadau Mawr a all ymdrin â digwyddiadau o argyfyngau mawr i rai bach, ond efallai sefyllfaoedd argyfwng anarferol.

Mae’r Cynllun Argyfwng yn darparu fframwaith am ymateb syth gan y Gwasanaethau Heddlu, Tân ac Ambiwlans i unrhyw drychineb mawr a all ddigwydd yn y Fwrdeistref Sirol.

Mae’r cynllun hwn yn ddogfen gyffredinol a luniwyd fel canllaw i ymateb. Cydnabyddir bod digwyddiadau’n amrywio’n enfawr o ran graddau’r ymateb angenrheidiol a’r effaith ar y Gymuned. Bydd asiantaethau ymateb yn defnyddio profiad a gwybodaeth i ymdrin ag unrhyw ddigwyddiad mewn ffordd hyblyg.

Mewn Argyfwng ffoniwch 999 bob tro

Cysylltwch â Ni