Ar-lein, Mae'n arbed amser

Argyfyngau tywydd y gaeaf

Os bydd unrhyw wasanaethau'n cau neu'n newid oherwydd y tywydd garw, bydd y dudalen hon yn cael ei diwygio a'i ddiweddaru gyda manylion perthnasol a'r dyddiad diweddaru diwethaf.

Gall tywydd y gaeaf o eira a rhew achosi tarfu ar wasanaethau, cludo ac effeithio ar fynediad i gymunedau ym Merthyr Tudful.

Mae'r Adran Priffyrdd wedi llunio Cynllun Cynnal a Chadw yn y Gaeaf sy'n cynnwys ymateb Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful i dywydd y gaeaf, yn enwedig tymheredd isel ac eira trwm.

Nod y cynllun yw hwyluso a chydlynu cymorth Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful i gymunedau Merthyr Tudful yn ystod tywydd y gaeaf.

(nodir fod peth o’r adnoddau allanol y cyfeirir atynt yma yn Saesneg)

Cysylltwch â Ni

Rhif ffôn y Tu Allan i Oriau ac Argyfwng y Cyngor yw 01685 385231.

Cyfryngau cymdeithasol

Lle gallwch chi weld ein holl ddiweddariadau diweddaraf, ar:

Clirio Eira ac Iâ

Os ydych chi'n sylwi ar fin graean sydd angen ei lenwi, defnyddiwch ein ffurflen ar-lein i ofyn am ail-lenwad. I ddarganfod ble mae'ch bin graean agosaf, cliciwch ar y ddolen isod.

Biniau Grit 2022-2023

Casgliadau Ailgylchu a Gwastraff

Yn ystod tywydd garw, byddwn yn adolygu'r sefyllfa mewn perthynas â'n casgliadau sbwriel ac ailgylchu yn barhaus.

Ar adegau, efallai y bydd yn rhaid atal casgliadau. Cyn gynted ag y bo'n ddiogel i ailddechrau ein rowndiau, byddwn yn parhau â chasgliadau arferol a dal i fyny rhyngddynt.

Gofal Cymdeithasol a Lles

Os oes gennych fater brys neu argyfwng, gallwch gysylltu â Thîm Dyletswydd Brys y Cyngor 24 awr y dydd, saith niwrnod yr wythnos ar 01443 743665.

Ysgolion 

Mewn tywydd gwael, mae pob ysgol yn gyfrifol am ddiweddaru statws eu hysgol. I gael gafael ar y wybodaeth hon, cliciwch ar y ddolen ganlynol: schoolclosures.merthyr.gov.uk

Trafnidiaeth Gyhoeddus

Am wybodaeth mewn perthynas â thrafnidiaeth gyhoeddus, fe'ch cynghorir i gysylltu â'r cwmnïau perthnasol yn uniongyrchol o ran amharu ar wasanaethau yn ystod cyfnodau o dywydd gwael.