Ar-lein, Mae'n arbed amser

Gorchmynion Iawndal

Beth yw Gorchymyn Iawndal?

Cafodd y gorchymyn iawndal ei greu gan Ddeddf Trosedd ac Anhrefn 1998 fel ffordd o ymdrin â phobl ifanc rhwng 10 ac 17 oed sydd wedi eu dyfarnu'n euog o gyflawni trosedd.  Mae gorchymyn iawndal yn orchymyn llys sy'n ei gwneud yn ofynnol bod y person ifanc a gyflawnodd y drosedd yn cwblhau gweithgareddau sydd o fudd i'r dioddefwr, neu'r gymuned ehangach, am gyfnod o hyd at 24 awr.  Gellir defnyddio'r gorchymyn iawndal ar ben ei hun neu gyda gorchmynion eraill. Gellir gofyn i'r troseddwr ysgrifennu llythyr o ymddiheuriad neu gwblhau prosiect sy'n seiliedig yn y gymuned fel codi sbwriel, garddio neu baentio offer mewn iardiau chwarae.

Amcanion y Gorchymyn yw:

Atal ail droseddu trwy wneud y person ifanc yn ymwybodol o effaith trosedd ar eu dioddefwyr, y gymuned, eu teulu a'r person ifanc ei hun.

Rhoi cyfle i'r person ifanc wneud yn iawn i'r unigolyn a/neu'r gymuned y mae wedi cyflawni trosedd yn eu herbyn.

Beth sy'n digwydd pan orfodir Gorchymyn Iawndal?

Bydd cyfarfod yn cael ei drefnu rhwng y person ifanc a'i deulu a'r Tîm Troseddau Ieuenctid yn y Llysoedd Barn, Glebeland Place, Merthyr Tudful, pan fydd y cynllunio'n dechrau ar gyfer y gorchymyn. 

Yn ystod cyfnod y Gorchymyn, bydd yn rhaid i'r person ifanc wneud peth neu'r oll o'r canlynol:

  • Gall yr Iawndal olygu bod y troseddwr yn cwrdd â'i ddioddefwr i ymddiheuro ar lafar iddynt.  Gelwir hyn yn Cyfryngu.
  • Gall yr Iawndal olygu bod y troseddwr yn ysgrifennu llythyr yn ymddiheuro a/neu gymryd rhan mewn sawl awr o weithgaredd ymarferol fydd o fudd i ddioddefwyr y drosedd.
  • Os nad yw dioddefwr eisiau Iawndal Uniongyrchol yna gellir gwneud yn iawn i'r gymuned ehangach.  Gelwir hyn yn Iawndal Anuniongyrchol.  Gall hyn olygu rhywfaint o weithgareddau, rhaglen o weithgareddau a / neu gyflawni gwaith er budd y gymuned.
  • Bydd hefyd rhyw faint o waith sy'n canolbwyntio ar y drosedd a'r dioddefwr er mwyn sicrhau bod y person ifanc yn deall pwrpas y Gorchymyn.
  • Bydd Swyddog Cyfrifol yn cael ei benodi o'r Tîm Troseddau Ieuenctid i oruchwylio/cydlynu'r rhaglen o waith

Beth sy'n digwydd os nad yw'r person ifanc yn cydymffurfio â'r Gorchymyn?

Os yw'r person ifanc yn methu a mynychu a chymryd rhan heb esgus rhesymol.bydd llythyr o rybudd yn cael ei anfon y tro cyntaf i hyn ddigwydd.  Yr ail dro i hyn ddigwydd mae'n rhaid i'r Swyddog Tîm Troseddau Ieuenctid ddechrau Achos Torri Rheol,  Bydd hyn yn golygu dychwelyd i'r llys ble y gall y person ifanc gael ei ail ddedfrydu am y drosedd wreiddiol.
 

Beth sy'n ddisgwyliedig gan rieni / teulu / gofalwyr?

Disgwylir i Rieni a Gwarcheidwaid gynorthwyo'r person ifanc yn y ffyrdd canlynol:

  • Sicrhau bod y person ifanc yn bresennol ym mhob apwyntiad a rhoi gwybod i'r Tîm Troseddau Ieuenctid os na allant fod yn bresennol.
  • Gweithio gyda'r Swyddog Tîm Troseddau Ieuenctid i oruchwylio'r person ifanc yn y gymuned.
  • Ymrwymo mewn gwaith teulu mewn perthynas ag ymddygiad troseddol y person ifanc.
  • Mynychu cyfarfodydd ac adolygiadau yn ôl yr angen.

Cysylltwch â Ni