Ar-lein, Mae'n arbed amser
Cronfa Atal Digartrefedd
Pwrpas y gronfa hon yw ychwanegu at gronfeydd disgresiynol atal digartrefedd y mae’r Awdurdod Lleol yn eu defnyddio ar hyn o bryd er mwyn atal neu liniaru digartrefedd.
Gall yr arian disgresiynol hyn gael ei ddefnyddio mewn modd hyblyg, yn unol â meini prawf yr Awdurdod Lleol a’r bwriad cyffredinol yw atal digartrefedd.
Gall yr arian dalu am fesurau ataliaeth a rhyddhad sydd wedi eu cynnwys yn fframwaith rheolau a chyfreithiau cyfredol yr Awdurdod. Mae’r enghreifftiau’n cynnwys:
- Talu rhent, o flaen llaw neu gynnig gwarant rhent i ddiogelu tenantiaeth ar gyfer unigolyn.
- Talu am ôl daliadau rhent fel rhan o’r pecyn gweithredu i gynnal tenantiaeth (pan na fydd cymhwysedd ar gyfer Taliadau Tai Disgresiynol.)
- Cynorthwyo i ariannu atgyweiriadau i eiddo yn sgil niwed a achoswyd gan denant fel rhan o becyn i atal troi allan.
- Talu am weithgareddau disgresiynol neu eitemau i gynorthwyo ag ymgysylltu unigolyn ar gyfer darpariaeth i gynnal tenantiaeth.
Nodwch mai enghreifftiau yn unig yw’r rhain ac nid yw’n rhestr gyflawn – dylai awdurdodau lleol bennu’r hyn sydd yn addas ar gyfer arian disgresiynol er mwyn atal neu ryddhau digartrefedd gan weithio oddi fewn i’w rheolau a’u fframweithiau cyfreithiol.
Am ragor o wybodaeth, siaradwch ag aelod o’r tîm yn yr Hyb Canol y Dref Merthyr Tudful, 3 Newmarket Walk, Canolfan Siopa Sgwâr Santes Tudful, Merthyr Tudful, CF47 8EL neu e-bostiwch HousingGateway@merthyr.gov.uk
Amseroedd agor yr Hyb yw - Dydd Llun i Ddydd Gwener (9:30am – 12:00pm a 1:00pm - 4:00pm)