Ar-lein, Mae'n arbed amser
Tai a Digartrefedd
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yn darparu ystod o wasanaethau tai i gefnogi preswylwyr gyda digartrefedd, cyngor tai ac ymholiadau Cofrestr Tai.
Gwasanaethau Digartrefedd – Y Ganolfan Ddinesig
Mae'r Tîm Datrysiadau Tai wedi'i leoli yn y Ganolfan Ddinesig a gall rhoi help gyda:
- Cyflwyniadau digartrefedd
- Cyngor a chymorth atal digartrefedd
- Hysbysiadau troi allan a hysbysiadau sy'n ceisio meddiant
- Chwalu perthynas a theuluoedd sy'n effeithio ar sefyllfa dai
- Cymorth i atal digartrefedd
- Rheoli achosion digartrefedd parhaus
- Cymorth tai brys
Os ydych chi'n ddigartref, mewn perygl o ddigartrefedd, neu os oes angen cyngor tai ar frys, cysylltwch â'r Tîm Datrysiadau Tai ar 01685 725000 neu ewch i'r Ganolfan Ddinesig.
Oriau Agor y Ganolfan Ddinesig
- Dydd Llun i ddydd Iau: 8:30am – 5:00pm
- Dydd Gwener: 8:30am – 4:30pm
Gwasanaethau Cofrestru Tai – HYB Canol y Dref
Mae'r Tîm Cofrestru Tai wedi'i leoli yn HYB Canol y Dref a gall gynorthwyo gyda:
- Ceisiadau newydd ar gyfer y Gofrestr Tai
- Apwyntiadau'r Gofrestr Tai
- Diweddaru ceisiadau presennol
- Adnewyddu'r Gofrestr Tai
- Ymholiadau bandio
- Cyngor a chymorth i gynnig
- Cyflwyno tystiolaeth ategol
- Ymholiadau cyffredinol yn ymwneud â cheisiadau am dai cymdeithasol
Oriau Agor Galw Heibio'r Gofrestr Tai
- Dydd Llun, dydd Mawrth, dydd Mercher a dydd Gwener: 10:00am – 3:00pm
- Ar gau bob dydd rhwng 12:00pm a 1:00pm
Nid oes angen apwyntiad yn ystod y sesiynau galw heibio hyn.
Cysylltu â'r Gwasanaethau Tai
Ar gyfer ymholiadau'r Gofrestr Tai, i gyflwyno tystiolaeth ategol, neu ar gyfer ymholiadau cyffredinol am dai, anfonwch e-bost at: housing@merthyr.gov.uk
Sylwch fod gwasanaethau ffôn yn cael eu blaenoriaethu ar gyfer ymholiadau digartrefedd ac atal digartrefedd.
Mae rhagor o wybodaeth a chyngor am dai hefyd ar gael yn: www.livingmerthyrtydfil.org.uk
Ein nod yw sicrhau bod preswylwyr yn gallu cael mynediad at y gwasanaeth tai cywir gan y tîm cywir yn y lleoliad cywir.
Y tu allan i oriau swyddfa (argyfyngau digartrefedd yn unig), ffoniwch 01685 385231.
Mae'r gwasanaeth yn parhau i brofi nifer uchel o alwadau, felly gofynnwn yn garedig am eich amynedd. Byddwn yn ymateb i'ch ymholiad cyn gynted â phosibl.
Cymorth a Chyngor Tai
Gwybodaeth ac arweiniad i helpu preswylwyr i ddeall eu hopsiynau tai, cael mynediad at gefnogaeth, a dod o hyd i'r gwasanaeth tai cywir ar gyfer eu hanghenion.
Strategaethau a Chynlluniau Tai
Strategaethau, cynlluniau ac asesiadau tai allweddol sy'n nodi blaenoriaethau lleol, tystiolaeth a chamau gweithredu i gefnogi anghenion tai ledled y fwrdeistref sirol.