Ar-lein, Mae'n arbed amser
Strategaeth y Rhaglen Cymorth Tai (RhCT) 2022-26
Strategaeth y Rhaglen Cymorth Tai (RhCT) 2022-26
Mae’r strategaeth hon yn nodi blaenoriaethau strategol Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful a’i asiantaethau partner ar gyfer atal a lliniaru digartrefedd ynghyd â darparu gwasanaethau cymorth tai dros y 4 blynedd nesaf (2022-26).
Blaenoriaethau Strategol
Mae’r blaenoriaethau ar gyfer gweithredu’r Rhaglen Cymorth Tai
a’r Gwasanaethau Atal a Lliniaru Digartrefedd wedi’u llywio gan
asesiad o anghenion lleol a rhanbarthol ynghyd ag ymgysylltiad â
rhanddeiliaid. Mae hefyd wedi cael ei lywio gan ofynion polisïau
ehangach ar lefel genedlaethol, ranbarthol a lleol megis y symudiad
i ailgartrefu cyflym a’r hyn a ddysgwyd o bandemig COVID-19.
Blaenoriaeth Strategol 1
Cryfhau’r gwasanaethau atal ac ymyrryd yn fuan a’r cymorth arbenigol a roir i rwystro digartrefedd
Blaenoriaeth Strategol 2
Sicrhau bod pobl sy’n ddigartref neu dan fygythiad o ddigartrefedd yn cael y cartref iawn ar yr amser iawn ac yn y lle iawn, fel rhan o’n dull Ailgartrefu Cyflym
Blaenoriaeth Strategol 3
Cryfhau Gwasanaethau Cymorth Tai ymhellach
Blaenoriaeth Strategol 4
Cydweithio i ddarparu Cymorth cyfannol sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn gydag ymyriadau arbenigol effeithiol lle bo angen
Gwybodaeth bellach:
- Asesiad o Anghenion Strategaeth Rhaglen Cymorth Tai Merthyr Tudful ( PDF , 3082KB )
- Strategaeth y Rhaglen Cymorth Tai (RhCT) 2022-26 ( PDF , 13237KB )
- Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful Datganiad Anghenion y Rhaglen Cymorth Tai ( PDF , 275KB )