Ar-lein, Mae'n arbed amser
Tenantiaid Rhentu Doeth Cymru
Ydych chi’n byw yn y sector rhentu preifat?
Mae gan bob tenant yr hawl i fyw mewn llety diogel sy’n cael ei reoli’n dda. Erbyn 23 Tachwedd 2016 dylai tenantiaid dim ond defnyddio lletywr trwyddedig ac asiant ar gyfer eu llety preifat a rhentir. Dylai eu lletywr a’r eiddo y maen nhw’n byw ynddo fod wedi ei gofrestru hefyd.
Yn ôl y gyfraith mae'n ofynnol bellach bod yr holl landlordiaid ac asiantau yn cael eu cofrestru neu eu trwyddedu. Cyflwynwyd cyfraith newydd yng Nghymru sy'n berthnasol i holl landlordiaid ac asiantau tai rhentu preswyl. Os ydych chi'n berchen arno, rhentu, rheoli a / neu fyw mewn eiddo rhent, yna bydd y gyfraith hon yn effeithio arnoch chi.
Mae goblygiadau gan denantiaid hefyd pan maen nhw’n byw mewn llety a rhentir hefyd (e.e. talu eu rhent yn brydlon a chadw’r eiddo mewn cyflwr da).
Mae canllaw i denantiaid wedi ei gyhoeddi i helpu tenantiaid i ddeall eu hawliau a’u cyfrifoldebau wrth rhentu’n breifat.
Cwestiynau Cyffredin
Beth os ydw i yn rhentu oddi wrth letywr neu asiant heb drwydded?
Ni chaiff tenantiaid eu cosbi os ydynt yn rhentu oddi wrth letywr neu asiant heb drwydded, ond dylent roi gwybod amdanynt wrth Rhentu Doeth Cymru.
I ganfod rhagor ewch i Wefan Rhentu Doeth Cymru neu ffoniwch 03000 133344.