Ar-lein, Mae'n arbed amser
Swyddi Gwag Presennol
Swyddi: 5 x Cynorthwyydd Cymorth Dysgu, Ysgol Arbennig Greenfield
Cyfeirnod y swydd: LS081-3725
Cyflog: £28,163.00 - I: £30,060.00
Graddfa Swydd: Grade 4 SCP 13-17
Oriau Swyddi: 32.5
Lleoliad: Greenfield Special School, Duffryn Road, Pentrebach, Merthyr Tydfil, CF48 4BJ
Arbenigol:
CYNGOR BWRDEISTREF SIROL MERTHYR TUDFUL
GWASANAETHAU INTEGREDIG I BLANT
YSGOL ARBENNIG GREENFIELD
Ffordd Dyffryn
Pentrebach
MERTHYR TUDFUL
CF48 4BJ
PENNAETH : Rhiannon Stephens Davies
Gradd 4 Cynorthwyydd Addysgu Arweiniol X 5 yn ofynnol
32.5 awr
SCP 13 – 17, £28,163 - £30,060 FTE
= 76.82% o'r SCP 17, £21,634 pro rata y flwyddyn
Parhaol
I ddechrau ym mis Medi 2025
Mae cyfle i bum Cynorthwyydd Addysgu ymuno â'n tîm llwyddiansu a llawn cymhelliant.
Mae’r llywodraethwyr yn awyddus i benodi Cynorthwywyr Addysgu brwdfrydig gydag angerdd am ddysgu ac addysgu sydd wedi ymrwymo i ddarparu addysg ragorol i'n disgyblion. Gwahoddir ceisiadau gan bobl gymwysedig a phrofiadol i ymuno â'n Tîm Cynorthwyydd Addysgu Arweiniol.
Byddwch yn gallu dangos enghreifftiau o sut wrth weithio ar y cyd ag athro dosbarth rydych chi wedi llwyddo i ddefnyddio staff cymorth eraill o fewn dosbarth i wneud y mwyaf o'r manteision i ddisgyblion. Dylai eich llythyr cais ddangos sut mae eich gyrfa hyd yma yn bodloni gofynion y disgrifiad swydd a'r fanyleb person.
Mae Ysgol Greenfield yn Ysgol Arbennig sy'n darparu ar gyfer ystod amrywiol o anghenion i ddisgyblion rhwng 3 a 19 oed. Mae Ysgol Greenfield yn ysgol lwyddiannus, fywiog a hapus sy'n cynnig cyfleoedd dysgu rhagorol i'n holl ddisgyblion, yn ogystal â chyfleoedd datblygu proffesiynol o ansawdd uchel i'r holl staff. Mae Greenfield yn ysgol flaengar, arloesol a chynhwysol iawn.
Mae lles disgyblion a staff yn flaenoriaeth uchel i'r ysgol a dyna pam mae dull arweinyddiaeth tosturiol wedi'i gyflwyno gan yr Uwch Dîm Arweinyddiaeth (UDA).
Mae ffurflenni cais, disgrifiadau swydd a manylebau person ar gael gan yr Adran Adnoddau Dynol, y Ganolfan Ddinesig, Merthyr Tudful a rhaid eu dychwelyd i'r un cyfeiriad.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw dydd Iau 19 Mehefin 2025.
Cynhelir y rhestr fer ddydd Llun 23 Mehefin 2025.
Disgwylir i'r cyfweliadau gael eu cynnal ar 24 a 25 Mehefin 2025.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Rhiannon Stephens-Davies ar neu e-bostiwch Rhiannon.StephensDavies@merthyr.gov.uk
Bydd gofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'r holl gymwysterau a nodir fel hanfodol.
Os nad oes gennych fynediad i'r rhyngrwyd, gellir cael ffurflenni cais drwy ffonio 01685 725000 ac maent i'w dychwelyd erbyn dydd Iau 19 Mehefin fan bellaf i Weinyddiaeth Adnoddau Dynol, Y Ganolfan Ddinesig, Stryd y Castell, Merthyr Tudful, CF47 8AN.
Ebost: Human.ResourcesAdmin@merthyr.gov.uk
Mae gallu siarad Cymraeg yn ddymunol.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful wedi ymrwymo i ddiogelu'r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymuned. Cynhelir gwiriadau cyn-gyflogaeth trwyadl ar gyfer pob penodiad fel rhan o'n proses recriwtio a dethol.
Mae'n ofynnol i bob gweithiwr gydymffurfio â'u cyfrifoldebau unigol a sefydliadol o dan y Ddeddf Diogelu Data, y Polisi Diogelwch Gwybodaeth a pholisïau gweithredol ategol perthnasol. Ni ddylid datgelu unrhyw faterion o natur gyfrinachol na'u trosglwyddo i unrhyw bersonau anawdurdodedig neu drydydd parti o dan unrhyw amgylchiadau naill ai yn ystod neu ar ôl cyflogaeth ac eithrio yng nghwrs priodol eich cyflogaeth neu fel sy'n ofynnol yn ôl y gyfraith, Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful neu'r ddau. Gall unrhyw dorri cyfrinachedd arwain at gamau disgyblu.
Rydym yn gwerthfawrogi amrywiaeth yn ein gweithlu ac yn ystyried ein hunain yn Gyflogwr o Ddewis, wedi ymrwymo i hyrwyddo ac integreiddio cyfle cyfartal ym mhob agwedd ar ein gwaith. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb ac yn annog ymgeiswyr o bob grwp a chefndir i wneud cais ac ymuno â ni yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful. Rydym wedi ymrwymo'n gryf i ddileu gwahaniaethu yn y gweithle a sicrhau nad oes gwahaniaethu anghyfreithlon yn digwydd yn y broses recriwtio a dethol ar sail oedran, anabledd, rhyw, hil, cyfeiriadedd rhywiol, priodas a phartneriaeth sifil, crefydd neu gred, hunaniaeth a mynegiant rhywedd, a beichiogrwydd a mamolaeth.