Ar-lein, Mae'n arbed amser

Swyddi Gwag Presennol

Swyddi: Seicolegydd Addysgol – Cymraeg
Cyfeirnod y swydd: RE-1801
Cyflog: £45,586.00 - I: £55,974.00
Graddfa Swydd: Gweld isod/see below
Oriau Swyddi: Gweld isod/see below
Lleoliad: Y Ganolfan Ddinesig, Stryd y Castell, Merthyr Tudful / Civic Centre, Castle Street, Merthyr Tydfil
Arbenigol:
Oriau: ½ Dydd yr wythnos (3.25 Oriau)
Cyflog: Soulbury A 2-7 + 3 SPAs posib£45,586 - £55,974 – pro rata yw £4,558 - £5,597 (10% o swydd llawn)

1. Cynorthwyo i ddarparu Gwasanaethau Seicoleg Addysgol i blant yn ein hysgolion cyfrwng Cymraeg a'u teuluoedd. Darparu cymorth a chyngor seicolegol i leoliadau cyn-ysgol ac ysgol drwy gyfrwng y Gymraeg.
2. Defnyddio seicoleg i gynorthwyo Awdurdod Lleol Merthyr Tudful i ddiwallu anghenion plant a phobl ifanc a chyflawni rhwymedigaethau statudol ALl.
3. Cynorthwyo i nodi cryfderau ac anawsterau plant a phobl ifanc sydd ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) o fewn y Fwrdeistref Sirol. I gynghori darpariaeth briodol i fodloni eu ADY.
4. Cymryd rôl flaenllaw wrth gynorthwyo ysgolion, athrawon, rhieni ac asiantaethau partner eraill mewn perthynas â diwygio ADY.
5. Darparu ymyriadau, gan gynnwys gwaith therapiwtig a hyfforddiant yn ôl yr angen.
6. Cynorthwyo mewn ymchwil sy'n galluogi dilyniant ymarfer cadarnhaol, seiliedig ar dystiolaeth ar bob lefel o fewn yr ALl.

Bydd goruchwyliaeth broffesiynol a DPP yn cael eu darparu gan yr GSA.

Am wybodaeth bellach cysylltwch â Bronwen Parry ar 01685 725000 neu ebostiwch Bronwen.Parry@merthyr.gov.uk

Bydd gofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'r holl gymwysterau a nodir yn hanfodol.

I gael ffurflen gais ffoniwch 01685 725000. Dychwelwch eich ffurflen erbyn 10.07.2025 i’r Adran Adnoddau Dynol, Canolfan Ddinesig, Stryd Y Castell, Merthyr Tudful, CF47 8AN.

Ebost: Human.ResourcesAdmin@merthyr.gov.uk

Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn hanfodol.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful wedi ymrwymo o warchod a diolgelu pobl fwyaf bregus ein cymunedau. Wrth recriwtio a dethol staff byddwn yn cynnal gwiriadau manwl cyn penodi unrhyw un.

Mae’n rhaid i bob gweithiwr, wrth gyflawni eu cyfrifoldebau personol a sefydliadol, gydymffurfio â’r Ddeddf Gwarchod Data, y Polisi Diogelu Gwybodaeth a’r polisïau gweithredol perthnasol eraill. Ni ddylid datgelu unrhyw fater cyfrinachol wrth berson di-awdurdod neu drydydd parti ar unrhyw achlysur naill ai yn ystod eich cyflogaeth neu wedi i chi adael y swydd. Yr unig eithriadau yw pan fo disgwyl i chi wneud hynny dan eich amodau gwaith neu pan fo’n ofynnol gan y gyfraith, Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, neu’r ddau. Fe all dorri cyfrinachedd arwain at gamau disgyblu.

Rydym yn gwerthfawrogi amrywiaeth yn ein gweithlu ac yn ystyried ein hunain fel Cyflogwr o Ddewis, yn ymrwymedig i hyrwyddo ac integreiddio cydraddoldeb i bob agwedd o’n gwaith. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb ac yn annog ceisiadau gan bob grwp a chefndir i geisio ac ymuno gyda ni yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful. Rydym yn ymroddedig i ddileu gwahaniaethu yn y gweithle ac yn sicrhau nad oes dim gwahaniaethu anghyfreithlon yn digwydd yn y broses recriwtio a dewis ar sail oedran, anabledd, rhyw, hil, cyfeiriadedd rhywiol, priodas neu bartneriaeth sifil, crefydd neu gred, hunaniaeth rhywedd, beichiogrwydd neu famolaeth.