Ar-lein, Mae'n arbed amser
Swyddi Gwag Presennol
Swyddi: Gofalwr, Ysgol Gynradd Parc Cyfarthfa
Cyfeirnod y swydd: CT046-4225
Cyflog: £25,989.00 - I: £25,989.00
Graddfa Swydd: Grade 2 SCP6
Oriau Swyddi: 37 hours
Lleoliad: Cyfarthfa Park Primary School
Arbenigol:
Ysgol Gynradd Parc Cyfarthfa
Parc Cyfarthfa
Merthyr Tudful
CF47 8RE
RHIF FFÔN 01685 351807
E-bost head@cyfarthfapark-pri.merthyr.sch.uk
Pennaeth – Mr O Morgan
GOFALWR
GRADD 2 SCP 6
£25,989
37 awr yr wythnos
Swydd yn cychwyn 16 Medi 2025 neu cyn gynted a phosib arol y dyddiad hwn.
Yn dilyn ymddiswyddiad ein gofalwr presennol rydym yn chwilio am rywun i wneud y swydd yn ei le. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn atebol i’r Pennaeth a’r Uwch Dîm Reoli ac yn gyfrifol am ddarparu gwasanaeth gofalu effeithlon ac effeithiol, a bydd yn gallu gweithio mewn partneriaeth â’n tîm ysgol i:
• Reoli'r gwaith cynnal a chadw cyffredinol ar adeiladau'r ysgol, gan wneud mân atgyweiriadau, ailaddurno a chynnal a chadw
• Bod yn gyfrifol am agor a chau dwy safle'r ysgol a chynnal gwiriadau diogelwch rheolaidd, gan gynnwys bod yn ddeilydd allwedd cyntaf ar gyfer argyfyngau y tu allan i oriau.
• Goruchwylio gweithrediad effeithlon systemau goleuo, dwr, gwres, tân a larwm yr ysgol, gan gynghori ar faterion yn ymwneud â rheoli ynni a chadwraeth.
• Cynorthwyo i reoli a gweithredu gosodiadau
• Cynorthwyo gydag archwiliadau diogelwch o'r eiddo a chydymffurfio â chanllawiau Iechyd a Diogelwch bob amser
• Dangos menter, ymrwymiad a pharodrwydd i ddatblygu yn y rôl
• Cyfrannu'n weithredol at ethos ac amcanion yr ysgol
• Bod yn barod i gymryd rhan yng ngweithgareddau'r ysgol
• Cefnogi a chynorthwyo gyda mentrau rheoli traffig
• Helpu i gynnal a datblygu tiroedd yr ysgol
• Bod yn gyfrifol am dîm o lanhawyr
Glanhau ardaloedd y cytunwyd arnynt yn ddyddiol.
Byddai’n well gennym petai gan ddeiliad y swydd drwydded yrru lawn a defnydd o gerbyd ond nid yw’n hanfodol i’r swydd.
Beth fydd eich oriau?
• 6:30yb – 10:30yb
• 2.30yp – 6yp (5.30yp ar ddyddiau Gwener)
• Ni ellir cymryd gwyliau yn ystod y tymor ysgol
Dyddiad Cau: Dydd Gwener 5ed o Fedi 2025
Rhestr byr: Wythnos yn cychwyn 8fed o Fedi 2025
Cyfweliadau: I’w gadarnhau
Mae’r swydd hon yn amodol ar wiriad uwch gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Gellir cwblhau ffurflenni cais arlein drwy ymweld â www.merthyr.gov.uk
Os nad oes gennych fynediad i’r rhyngrwyd, gallwch gael gafael ar ffurflen gais drwy ffonio 01685 725199 a’i dychwelyd nid hwyrach na 5ed o Fedi 2025 i Adnoddau Dynol/ HR Administration, Y Ganolfan Ddinesig, Stryd y Castell, Merthyr Tudful, CF47 8AN
E-bost: Human.ResourcesAdmin@merthyr.gov.uk
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful wedi ymrwymo i warchod a diogelu’r bobl sydd fwyaf agored i niwed o fewn ein cymuned. Cyflawnir gwiriadau cyflogaeth trwyadl ar gyfer pob un penodiad fel rhan o’n proses recriwtio a dethol.
Rhaid i bob aelod o staff gydymffurfio gyda’u cyfrifoldebau unigol a chyfrifoldebau’r sefydliad yn unol â’r Ddeddf Diogelu Data, y Polisi Diogelwch Gwybodaeth ac unrhyw bolisïau gweithredol perthnasol eraill sy’n cefnogi’r rhain. Ni ddylai unrhyw fater o natur gyfrinachol gael eu datgelu na’u rhannu gydag unrhyw un anawdurdodedig na chwaith eu rhannu gyda thrydydd parti ar unrhyw amod, nid yn ystod cyfnod y swydd na chwaith wedi i’r swydd ddod i ben heblaw yn ôl y drefn briodol o fewn eich swydd neu fel sy’n ofynnol yn ôl y gyfraith, Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, neu’r ddau. Gallai tor-cyfrinachedd arwain at orchymyn disgyblu.
Rydym yn gwerthfawrogi amrywiaeth o fewn ein gweithlu ac ystyriwn ein hunan fel Cyflogwr Delfrydol, sydd wedi ymrwymo i hyrwyddo ac integreiddio cydraddoldeb i mewn i bob elfen o’n gwaith. Croesawn ffurflenni cais gan bawb ac anogwn ymgeiswyr o bob grwp a chefndir i ymgeisio ac i ymuno â ni ym Mwrdeistref Sirol Merthyr Tudful. Rydym yn gwbl ymrwymedig i waredu ar wahaniaethu yn y gweithle ac i sicrhau nad oes unrhyw wahaniaethu anghyfreithlon yn digwydd yn ystod y broses recriwtio a dethol ar sail oedran, anabledd, rhyw, hil, cyfeiriadedd rhywiol, priodas a phartneriaeth sifil, crefydd neu gred, hunaniaeth rhywedd neu fynegiant rhywedd a beichiogrwydd a mamolaeth.