Ar-lein, Mae'n arbed amser

Swyddi Gwag Presennol

Swyddi: Clerc/ Swyddog Cyswllt Teulu, Ysgol Santes Tudful
Cyfeirnod y swydd: FL036-4625
Cyflog: £31,537.00 - I: £33,699.00
Graddfa Swydd: Grade 5 SCP 18-22 pro rata
Oriau Swyddi: Term time
Lleoliad: Ysgol Santes Tudful
Arbenigol:
MERTHYR TYDFIL COUNTY BOROUGH COUNCIL
Ysgol Santes Tudful

Ysbydoli.Dysgu.Dathlu
https://www.santestudful.merthyr.sch.uk/

Pennaeth: Lynne Rose-Jones

Yn eisiau cyn gynted a phosib
Mae Pennaeth a Chorff Llywodraethol yr ysgol benodedig Gymraeg llwyddiannus, ofalgar a chyfeillgar uchod yn chwilio am glerc/flo ysgol dibynadwy ac effeithlon , croesawgar a threfnus i redeg swyddfa brysur yr ysgol ac i gydwiethio gyda’n cymuned ysgol. Mae staff eisiau cydweithiwr sy'n frwdfrydig, yn llawn cymhelliant ac yn weithgar i ymuno â thîm yr ysgol a chefnogi gwaith beunyddiol yr ysgol yn effeithlon. Mae’r ysgol yn edrych i apwyntio rol llawn amser, parhaol. Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol iawn.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn:

cymryd rhan arweiniol yn natblygiad a chynnal systemau cofnodion / gwybodaeth gan gynnwys SIMS, Plasc
cynnal gweithdrefnau cyffredinol o ddydd i ddydd;
cynorthwyo i ddatblygu perthnasoedd cadarnhaol â’r rhieni;
rheoli systemau cofnodion/gwybodaeth cyfrifiadurol a maniwal;
ymgymryd â gweithdrefnau gweinyddu ariannol cymhleth;
cysylltu â rhieni a gofalwyr ynghylch balansau arian cinio ac unrhyw faterion lles perthnasol.
Cynrychioli’r ysgol a chydlynu gwybodaeth ac adroddiadau yn ymwneud â Diogelu drwy fynychu cynadleddau CP a grwpiau craidd, gan sicrhau bod adroddiadau’n cael eu cyflwyno’n brydlon ac yn darparu gwybodaeth berthnasol.
Gweithio i nodi teuluoedd anodd eu cyrraedd a’r rhai sy’n ymddieithrio o’r system addysg neu sydd dan anfantais oherwydd tlodi gan gynnwys mewn cyfnodau pontio allweddol
Cynnal cyfarfodydd gyda phartneriaid i integreiddio dulliau ar draws ffiniau sefydliadol ac i gefnogi partneriaid, i wella ymgysylltiad a chanlyniadau i deuluoedd.
Cynrychioli ysgolion fel rhan o'r dull partneriaeth a chynnal darlun cywir o gynnydd teuluoedd fel pwynt cyswllt canolog sy'n cydgysylltu ag asiantaethau a swyddogion ymroddedig sy'n ymgysylltu â theuluoedd.
Gweithio gyda phartneriaid i nodi effeithiau’r ymyriadau a dderbyniwyd ar deuluoedd/pobl ifanc unigol drwy ddatblygu mesurau effaith a rennir.
Darparu cefnogaeth wrth gydlynu, monitro a gwerthuso unrhyw brosiectau a sefydlwyd i gefnogi anghenion bugeiliol disgyblion yn yr ysgol.


Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus:

yn drefnus iawn gyda sgiliau rhyngbersonol rhagorol;
yn groesawgar i gymuned yr ysgol ac ymwelwyr;
yn gallu gweithio’n effeithiol fel rhan o dîm ymroddedig a gweithgar;
yn gallu dangos sgiliau TGCh, llythrennedd a rhifedd rhagorol;
yn wybodus am brosesau system yr ysgol;
yn gallu dangos lefel uchel o flaengaredd personol;
yn ddibynadwy ac yn broffesiynol.
yn gallu cyfathrebu'n effeithiol gyda phlant, yn unigol ac mewn lleoliad grwp
yn gallu cyfathrebu'n effeithiol gyda rhieni a theuluoedd, asiantaethau partner, gweithwyr proffesiynol a staff ar bob lefel.
yn gallu asesu anghenion plant a'u teuluoedd a gweithio gydag asiantaethau eraill i lunio pecynnau cymorth

Dyddiad Cau: Dydd Sul, Medi 21, 2025
Tynnu Rhestr Fer: Dydd Llun, Medi 22, 2025
Cyfweliad: Medi 24, 2025

Mae’r swydd hon yn amodol ar destun gwiriad manylach y DBS.

Gellir cwblhau’r ffurflenni cais ar-lein yn www.merthyr.gov.uk

Os nad oes gennych fynediad i’r rhyngrwyd, gallwch gael ffurflenni cais trwy ffonio 01685 725000 a dylech eu dychwelyd nid hwyrach na dydd Sul, 21 Medi 2025 i’r Adran Gweinyddu Adnoddau Dynol, Y Ganolfan Ddinesig, Stryd y Castell, Merthyr Tudful, CF47 8AN.

E-bost: Human.ResourcesAdmin@merthyr.gov.uk

Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful wedi ymrwymo o warchod a diolgelu pobl fwyaf bregus ein cymunedau. Wrth recriwtio a dethol staff byddwn yn cynnal gwiriadau manwl cyn penodi unrhyw un.

Mae’n rhaid i bob gweithiwr, wrth gyflawni eu cyfrifoldebau personol a sefydliadol, gydymffurfio â’r Ddeddf Gwarchod Data, y Polisi Diogelu Gwybodaeth a’r polisïau gweithredol perthnasol eraill.