Ar-lein, Mae'n arbed amser
Swyddi Gwag Presennol
Swyddi: Warden Gwastraff ac Ailgylchu
Cyfeirnod y swydd: RE-1844
Cyflog: £29,064.00 - I: £31,022.00
Graddfa Swydd: Gradd 4 / Grade 4
Oriau Swyddi: 37 Awrs / 37 Hours
Lleoliad: Uned 20, Pentrebach / Unit 20 , Pentrebach
Arbenigol:
MAE'R POST HYN WEDI'W GOSOD AM 2 FLWYDDYN.
Gweithio fel aelod rhagweithiol o'r tîm rheoli gwastraff yn datblygu a gweithredu mentrau rheoli gwastraff cynaliadwy ledled Merthyr Tudful a fydd yn helpu i gyflawni targedau sy'n gysylltiedig â gwastraff.
Cyflawni prosiectau rheoli gwastraff sy'n cadw at bolisi a gofynion gwasanaeth y cyngor
Addasu blaenoriaethau’r meysydd gwaith yn gyson i gydymffurfio â newidiadau deddfwriaethol a newidiadau i wasanaeth yr Awdurdod.
Gweithio tuag at wella cyfranogiad yn yr holl gynlluniau ailgylchu cyfredol gan ddefnyddio dulliau gwaith arloesol
Gweithio tuag at wella prosiectau ailgylchu sefydledig yn barhaus.
Gweithio tuag at gyflawni lefelau uchel o berfformiad yn erbyn targedau deddfwriaethol a thargedau darparu gwasanaethau
Hyrwyddo lleihau/ailgylchu/compostio gwastraff trwy addysg, perswadio a gorfodi.
Am wybodaeth bellach cysylltwch â Christian Jones ar 01685 725000 neu ebostiwch Christian.Jones@merthyr.gov.uk
Bydd gofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'r holl gymwysterau a nodir yn hanfodol.
I gael ffurflen gais ffoniwch 01685 725000. Dychwelwch eich ffurflen erbyn 20.11.2025 i’r Adran Adnoddau Dynol, Canolfan Ddinesig, Stryd Y Castell, Merthyr Tudful, CF47 8AN.
Ebost: Human.ResourcesAdmin@merthyr.gov.uk
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn dymunol.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful wedi ymrwymo o warchod a diolgelu pobl fwyaf bregus ein cymunedau. Wrth recriwtio a dethol staff byddwn yn cynnal gwiriadau manwl cyn penodi unrhyw un.
Mae’n rhaid i bob gweithiwr, wrth gyflawni eu cyfrifoldebau personol a sefydliadol, gydymffurfio â’r Ddeddf Gwarchod Data, y Polisi Diogelu Gwybodaeth a’r polisïau gweithredol perthnasol eraill. Ni ddylid datgelu unrhyw fater cyfrinachol wrth berson di-awdurdod neu drydydd parti ar unrhyw achlysur naill ai yn ystod eich cyflogaeth neu wedi i chi adael y swydd. Yr unig eithriadau yw pan fo disgwyl i chi wneud hynny dan eich amodau gwaith neu pan fo’n ofynnol gan y gyfraith, Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, neu’r ddau. Fe all dorri cyfrinachedd arwain at gamau disgyblu.
Rydym yn gwerthfawrogi amrywiaeth yn ein gweithlu ac yn ystyried ein hunain fel Cyflogwr o Ddewis, yn ymrwymedig i hyrwyddo ac integreiddio cydraddoldeb i bob agwedd o’n gwaith.
Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb ac yn annog ceisiadau gan bob grwp a chefndir i geisio ac ymuno gyda ni yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful. Rydym yn ymroddedig i ddileu gwahaniaethu yn y gweithle ac yn sicrhau nad oes dim gwahaniaethu anghyfreithlon yn digwydd yn y broses recriwtio a dewis ar sail oedran, anabledd, rhyw, hil, cyfeiriadedd rhywiol, priodas neu bartneriaeth sifil, crefydd neu gred, hunaniaeth rhywedd, beichiogrwydd neu famolaeth.