Ar-lein, Mae'n arbed amser

Swyddi Gwag Presennol

Swyddi: Uwch Weithiwr Cymdeithasol Hwb Cymorth Cynnar
Cyfeirnod y swydd: RE-1860
Cyflog: £48,226.00 - I: £51,356.00
Graddfa Swydd: Gradd 9 / Grade 9
Oriau Swyddi: 37 Awr / 37 Hours
Lleoliad: Hwb Cymorth Cynnar a Phlant ag Anableddau / Early Help Hub and Children With Disabilities
Arbenigol:



Bydd yr Uwch Weithiwr Cymdeithasol, Hwb Cymorth Cynnar (EHH) yn chwarae rôl allweddol wrth gydlynu'r gwaith o gyflwyno model Tîm o amgylch y Teulu (TAF) Merthyr Tudful, gan sicrhau bod teuluoedd yn derbyn cymorth amserol ac effeithiol ar y cam cynharaf posibl. Bydd y rôl yn canolbwyntio ar arwain a datblygu dull ataliol sy'n seiliedig ar gryfderau sy'n helpu teuluoedd i gyflawni eu canlyniadau personol ac yn lleihau'r angen am ymyrraeth statudol.

Am wybodaeth bellach cysylltwch â Matthew Davies ar 01685 725000 neu ebostiwch Matthew.Davies@merthyr.gov.uk

Bydd gofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'r holl gymwysterau a nodir yn hanfodol.

I gael ffurflen gais ffoniwch 01685 725000. Dychwelwch eich ffurflen erbyn 18.12.2025 i’r Adran Adnoddau Dynol, Canolfan Ddinesig, Stryd Y Castell, Merthyr Tudful, CF47 8AN.

Ebost: Human.ResourcesAdmin@merthyr.gov.uk

Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn dymunol.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful wedi ymrwymo o warchod a diolgelu pobl fwyaf bregus ein cymunedau. Wrth recriwtio a dethol staff byddwn yn cynnal gwiriadau manwl cyn penodi unrhyw un.

Mae’n rhaid i bob gweithiwr, wrth gyflawni eu cyfrifoldebau personol a sefydliadol, gydymffurfio â’r Ddeddf Gwarchod Data, y Polisi Diogelu Gwybodaeth a’r polisïau gweithredol perthnasol eraill. Ni ddylid datgelu unrhyw fater cyfrinachol wrth berson di-awdurdod neu drydydd parti ar unrhyw achlysur naill ai yn ystod eich cyflogaeth neu wedi i chi adael y swydd. Yr unig eithriadau yw pan fo disgwyl i chi wneud hynny dan eich amodau gwaith neu pan fo’n ofynnol gan y gyfraith, Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, neu’r ddau. Fe all dorri cyfrinachedd arwain at gamau disgyblu.

Rydym yn gwerthfawrogi amrywiaeth yn ein gweithlu ac yn ystyried ein hunain fel Cyflogwr o Ddewis, yn ymrwymedig i hyrwyddo ac integreiddio cydraddoldeb i bob agwedd o’n gwaith. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb ac yn annog ceisiadau gan bob grwp a chefndir i geisio ac ymuno gyda ni yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful. Rydym yn ymroddedig i ddileu gwahaniaethu yn y gweithle ac yn sicrhau nad oes dim gwahaniaethu anghyfreithlon yn digwydd yn y broses recriwtio a dewis ar sail oedran, anabledd, rhyw, hil, cyfeiriadedd rhywiol, priodas neu bartneriaeth sifil, crefydd neu gred, hunaniaeth rhywedd, beichiogrwydd neu famolaeth.