Ar-lein, Mae'n arbed amser

Swyddi Gwag Presennol

Swyddi: Uwch Ymarferydd Gofal Plant Preswyl x3
Cyfeirnod y swydd: RE-1888
Cyflog: £31,537.00 - I: £33,699.00
Graddfa Swydd: Gradd 5 / Grade 5
Oriau Swyddi: 35 Awr / 35 Hours
Lleoliad: Ty Jasmine
Arbenigol:


Ty Jasmine x 3
Oriau: 35 Awr
Cyflog: Gradd 5 SCP 18-22 = £31,537 - £33,699 y flwyddyn yn rhannu'n gymesur
35 Awr = 94.59% = £29,830 - £31,875 y flwyddyn

Bod yn gyfrifol fel aelod arweiniol o'r tîm staff, ac uwch ymarferydd, am ofal uniongyrchol beunyddiol y plant a phobl ifanc a thasgau a dyletswyddau cefnogol eraill.

.Bydd yr Uwch Ymarferydd Gofal Plant Preswyl yn cefnogi'r Rheolwr i gyfrannu at gynllunio, a sicrhau bod ymyriadau sy'n seiliedig ar dystiolaeth yn cael eu cyflwyno'n ddiogel, bydd hwn yn cynnwys gweithio'n uniongyrchol gyda phlant/pobl ifainc a'u teuluoedd, i sicrhau y gallant ddychwelyd adref yn gyflym, neu symud i leoliad tymor hwy. Yn ogystal, byddant yn cydlynu ac yn darparu gwasanaeth sy'n cefnogi plant/pobl ifainc eu teuluoedd, a lleoliadau maeth, lle mae yno risg o darfu neu chwalu.'

.Goruchwylio staff
• Dyletswyddau ar alwad
• Dirprwyo'r Rheolwr Cofrestredig yn eu absenoldeb.
. Gallu delio â materion dadleuol a chymhleth

• Bydd hyn yn cynnwys gwaith gyda'r nos a dros nenwythnosau, a dyletswyddau cysgu dros nos yn ôl yr angen.

• Y safonau sy'n cael eu cymhwyso i'r swydd hon yw Diploma QCF Lefel 3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Plant a Phobl Ifanc) neu'r cymhwyster blaenorol N.V.Q. Dyfarniadau Lefel III mewn Gofal

Am wybodaeth bellach cysylltwch â Warren Davies ar 01685 725000 neu ebostiwch Warren.Davies@merthyr.gov.uk

Bydd gofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'r holl gymwysterau a nodir yn hanfodol.

I gael ffurflen gais ffoniwch 01685 725000. Dychwelwch eich ffurflen erbyn 12.02.2026 i’r Adran Adnoddau Dynol, Canolfan Ddinesig, Stryd Y Castell, Merthyr Tudful, CF47 8AN.

Ebost: Human.ResourcesAdmin@merthyr.gov.uk

Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn dymunol.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful wedi ymrwymo o warchod a diolgelu pobl fwyaf bregus ein cymunedau. Wrth recriwtio a dethol staff byddwn yn cynnal gwiriadau manwl cyn penodi unrhyw un.

Mae’n rhaid i bob gweithiwr, wrth gyflawni eu cyfrifoldebau personol a sefydliadol, gydymffurfio â’r Ddeddf Gwarchod Data, y Polisi Diogelu Gwybodaeth a’r polisïau gweithredol perthnasol eraill. Ni ddylid datgelu unrhyw fater cyfrinachol wrth berson di-awdurdod neu drydydd parti ar unrhyw achlysur naill ai yn ystod eich cyflogaeth neu wedi i chi adael y swydd. Yr unig eithriadau yw pan fo disgwyl i chi wneud hynny dan eich amodau gwaith neu pan fo’n ofynnol gan y gyfraith, Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, neu’r ddau. Fe all dorri cyfrinachedd arwain at gamau disgyblu.

Rydym yn gwerthfawrogi amrywiaeth yn ein gweithlu ac yn ystyried ein hunain fel Cyflogwr o Ddewis, yn ymrwymedig i hyrwyddo ac integreiddio cydraddoldeb i bob agwedd o’n gwaith. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb ac yn annog ceisiadau gan bob grwp a chefndir i geisio ac ymuno gyda ni yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful. Rydym yn ymroddedig i ddileu gwahaniaethu yn y gweithle ac yn sicrhau nad oes dim gwahaniaethu anghyfreithlon yn digwydd yn y broses recriwtio a dewis ar sail oedran, anabledd, rhyw, hil, cyfeiriadedd rhywiol, priodas neu bartneriaeth sifil, crefydd neu gred, hunaniaeth rhywedd, beichiogrwydd neu famolaeth.