Ar-lein, Mae'n arbed amser

Swyddi Gwag Presennol

Swyddi: CYNORTHWYYDD CYMORTH DYSGU LEFEL 3, Ysgol Gymunedol Twynyrodyn
Cyfeirnod y swydd: LS041-0726
Cyflog: £26,402.00 - I: £28,598.00
Graddfa Swydd: Grade 3 SCP 7-12
Oriau Swyddi: 30hrs
Lleoliad: Twynyrodyn Community Primary School
Arbenigol:
Ysgol Gymunedol Twynyrodyn
Gilfach Cynon, Twynyrodyn, CF47 OLW

Pennaeth: Miss Katy Watson

CYNORTHWYYDD CYMORTH DYSGU LEFEL 3
Gradd 3 SCP 7-12 (£26,402 - £28,598 y flwyddyn pro rata)
(SCP 7 h.y. 70.91% o £26,403 = £18,722 y flwyddyn)
Dyddiad dechrau – Ebrill 2026
1 x Swydd - 30 awr yr wythnos - 5 diwrnod.

Mae'r Corff Llywodraethol yn ceisio penodi 'Cynorthwyydd Cymorth Dysgu' brwdfrydig ac ymroddedig i gefnogi staff i ddarparu addysg ragorol, goruchwyliaeth gref a gofal o safon i'r plant yn Ysgol Gymunedol Twynyrodyn.
Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus sgiliau rhyngbersonol rhagorol, bydd yn hyderus, yn ddibynadwy, yn hyblyg a dylai allu gweithio fel rhan o dîm.
Bydd disgwyl i'r ymgeisydd llwyddiannus gefnogi athrawon dosbarth i hyrwyddo safonau uchel, cyfrannu at gynllunio a datblygu amgylchedd dysgu ysgogol.
Gallwn gynnig amgylchedd gwaith hapus a chefnogol i chi a byddwch yn cael y cyfle i addysgu plant trwy gwricwlwm cyffrous a blaengar. Hoffem i'r ymgeisydd ymrwymo i ddatblygiad proffesiynol parhaus gan gynnwys hyfforddiant o fewn yr ysgol a chyrsiau byrdymor /hirdymor y tu allan i'r ysgol.

Os oes angen rhagor o fanylion arnoch, cysylltwch â Miss Katy Watson (Pennaeth) drwy ffonio 01685 351804 neu drwy e-bost: katy.watson@merthyr.gov.uk

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau – Dydd Gwener 13 Mawrth

Rhestr fer – Dydd Llun 16 Mawrth

Gweithgaredd – Dydd Mercher 17 Mawrth

Cyfweliadau – Dydd Iau 19 Mawrth

Bydd gofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'r holl gymwysterau a nodir yn hanfodol.
I gael ffurflen gais ffoniwch 01685 725000. Dychwelwch eich ffurflen erbyn 13th March 2026 i’r Adran Adnoddau Dynol, Canolfan Ddinesig, Stryd Y Castell, Merthyr Tudful, CF47 8AN.
Ebost: Human.ResourcesAdmin@merthyr.gov.uk
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful wedi ymrwymo o warchod a diolgelu pobl fwyaf bregus ein cymunedau. Wrth recriwtio a dethol staff byddwn yn cynnal gwiriadau manwl cyn penodi unrhyw un.
Mae’n rhaid i bob gweithiwr, wrth gyflawni eu cyfrifoldebau personol a sefydliadol, gydymffurfio â’r Ddeddf Gwarchod Data, y Polisi Diogelu Gwybodaeth a’r polisïau gweithredol perthnasol eraill. Ni ddylid datgelu unrhyw fater cyfrinachol wrth berson di-awdurdod neu drydydd parti ar unrhyw achlysur naill ai yn ystod eich cyflogaeth neu wedi i chi adael y swydd. Yr unig eithriadau yw pan fo disgwyl i chi wneud hynny dan eich amodau gwaith neu pan fo’n ofynnol gan y gyfraith, Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, neu’r ddau. Fe all dorri cyfrinachedd arwain at gamau disgyblu.
Rydym yn gwerthfawrogi amrywiaeth yn ein gweithlu ac yn ystyried ein hunain fel Cyflogwr o Ddewis, yn ymrwymedig i hyrwyddo ac integreiddio cydraddoldeb i bob agwedd o’n gwaith. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb ac yn annog ceisiadau gan bob grwp a chefndir i geisio ac ymuno gyda ni yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful. Rydym yn ymroddedig i ddileu gwahaniaethu yn y gweithle ac yn sicrhau nad oes dim gwahaniaethu anghyfreithlon yn digwydd yn y broses recriwtio a dewis ar sail oedran, anabledd, rhyw, hil, cyfeiriadedd rhywiol, priodas neu bartneriaeth sifil, crefydd neu gred, hunaniaeth rhywedd, beichiogrwydd neu famolaeth.