Current Job Vacancies
Job: Athro/ Athrawes, Ysgol Gymraeg Rhyd y Grug
Job Ref: TC035-2526
Salary: £33,731.00 - To: £51,942.00
Job Scale: Graddfa Gyflog Athro
Job Hours: 32.5
Location: Ysgol Gymraeg Rhyd y Grug, Aberfan, Merthyr Tydfil CF48 4NT
Speciality:
Ysgol Gymraeg Rhyd y Grug
Yn eisiau ar gyfer Medi 2026:
ATHRO / ATHRAWES
Prif Raddfa Gyflog Athrawon
Swydd blwyddyn i gychwyn, hyd at Awst 31ain, 2027
Mae Pennaeth a Chorff Llywodraethol yr ysgol benodedig Gymraeg llwyddiannus, uchelgeisiol a chyfeillgar hon yn gwahodd ceisiadau wrth ymarferwyr talentog, brwdfrydig a phroffesiynol i ymuno â thîm ymroddgar yr ysgol. Yn ysgol Gymraeg Rhyd y Grug mae gennym ddisgwyliadau uchel ar gyfer ein disgyblion a’n staff ac rydym yn gweithio’n ddiflino i gyflawni ein nod. Disgwylir i’r person a benodir ymrwymo i’r weledigaeth hon ac i gefnogi ac arwain ein hymgyrch at Dyfu, Dysgu a Llwyddo gyda’n gilydd. Mae Ysgol Gymraeg Rhyd y Grug yn adnabyddus am ei hamgylchedd meithringar a chroesawgar, ac rydym yn angerddol am ddyfodol ein dysgwyr. Rydym eisiau i’n disgyblion dyfu i fod yn unigolion hapus, iach, hyderus ac uchelgeisiol. Ein nod fel ysgol yw creu awyrgylch hapus a diogel i’n disgyblion ffynnu a chyrraedd eu llawn botensial. Mae Ysgol Gymraeg Rhyd y Grug yn gwasanaethu dalgylch eang o amgylch Aberfan ym Merthyr Tudful. Mae ynddi dros 260 o ddisgyblion, gan gynnwys 30 o blant yn y feithrin.
Rydym yn chwilio am addysgwr/addysgwraig ragorol sy’n unigolyn ymroddgar, hyblyg a threfnus iawn sy’n gosod disgwyliadau eithriadol o uchel ar gyfer ei hun ac yn mynnu’r safonau uchaf posibl wrth bob disgybl ac eraill.
Bydd disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus gydlynu maes ar draws yr ysgol ac i arwain a chefnogi gweithgareddau allgyrsiol, eisteddfodol a diwylliannol. Swydd ydy hon dros gyfnod o flwyddyn yn y man cychwyn.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn rhugl yn hanfodol ynghyd â’r gallu i weithio’n effeithiol fel rhan o dîm ac i ymgysylltu’n effeithlon â rhieni. Am fanylion pellach, mae croeso cynnes i chi gysylltu â’r Pennaeth, Mrs Alwen Bowen, ar 01685 351818 Dylid cwblhau’r cais yn Gymraeg a gofynnir i chi amlinellu eich profiadau a’ch sgiliau yn y llythyr cais.
Ffurflenni cais ar gael, ac i`w dychwelyd i`r cyfeiriad canlynol:
Adran Adnoddau Dynol, Ystafell 323, Canolfan Ddinesig, Stryd Y Castell, Merthyr Tudful CF47 8AN
Rhif Ffon: 01685 725199. Dyddiad Cau: Mehefin 15fed am 12 o’r gloch
Bydd gofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'r holl gymwysterau a nodir yn hanfodol.
I gael ffurflen gais ffoniwch 01685 725000. Dychwelwch eich ffurflen erbyn Mehefin 15fed am 12 o’r gloch i’r Adran Adnoddau Dynol, Canolfan Ddinesig, Stryd Y Castell, Merthyr Tudful, CF47 8AN.
Ebost: Human.ResourcesAdmin@merthyr.gov.uk
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn hanfodol
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful wedi ymrwymo o warchod a diolgelu pobl fwyaf bregus ein cymunedau. Wrth recriwtio a dethol staff byddwn yn cynnal gwiriadau manwl cyn penodi unrhyw un.
Mae’n rhaid i bob gweithiwr, wrth gyflawni eu cyfrifoldebau personol a sefydliadol, gydymffurfio â’r Ddeddf Gwarchod Data, y Polisi Diogelu Gwybodaeth a’r polisïau gweithredol perthnasol eraill. Ni ddylid datgelu unrhyw fater cyfrinachol wrth berson di-awdurdod neu drydydd parti ar unrhyw achlysur naill ai yn ystod eich cyflogaeth neu wedi i chi adael y swydd. Yr unig eithriadau yw pan fo disgwyl i chi wneud hynny dan eich amodau gwaith neu pan fo’n ofynnol gan y gyfraith, Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, neu’r ddau. Fe all dorri cyfrinachedd arwain at gamau disgyblu.
Rydym yn gwerthfawrogi amrywiaeth yn ein gweithlu ac yn ystyried ein hunain fel Cyflogwr o Ddewis, yn ymrwymedig i hyrwyddo ac integreiddio cydraddoldeb i bob agwedd o’n gwaith. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb ac yn annog ceisiadau gan bob grwp a chefndir i geisio ac ymuno gyda ni yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful. Rydym yn ymroddedig i ddileu gwahaniaethu yn y gweithle ac yn sicrhau nad oes dim gwahaniaethu anghyfreithlon yn digwydd yn y broses recriwtio a dewis ar sail oedran, anabledd, rhyw, hil, cyfeiriadedd rhywiol, priodas neu bartneriaeth sifil, crefydd neu gred, hunaniaeth rhywedd, beichiogrwydd neu famolaeth.