Ar-lein, Mae'n arbed amser

Swyddi Gwag Presennol

Swyddi: KA000-1623 Cymhorthydd Cegin Merthyr Schools
Cyfeirnod y swydd: KA000-1623
Cyflog:
Graddfa Swydd: Graddfa 1/Grade 1 SCP 5
Oriau Swyddi: Various
Lleoliad: Ysgolion Merthyr Tydfil/Various Schools within Merthyr Tydfil
Arbenigol:
CYNGOR BWRDEISTREF SIROL MERTHYR TUDFUL
Cyfarwyddiaeth Pobl a Pherfformiad, Adran Arlwyo Ysgolion

CYNORTHWYYDD CEGIN CYFFREDINOL

Ysgolion amrywiol, ledled Merthyr Tudful
(Gweler y rhestr amgaeedig ar gyfer Ysgolion ac Oriau)

Cyfnod y Tymor yn unig

Graddfa 1 SCP 5 - £23,500 per annum pro rata

Angen cyn gynted â phosib

Cyfrifol am baratoi syml ar gyfer prydau, gosod y cownter gwasanaeth a’r ardaloedd bwyta, glanhau’r offer arlwyo. Mae hyn yn cynnwys ardaloedd y gegin a bwyta i’r safon sydd wedi ei nodi gan y Rheolwyr.

Mae tystysgrif hylendid, Lefel ii, cymwys yn hanfodol ar gyfer y swydd.

Bydd gwahoddiadau i gyfweliad yn cael eu hafnon ar e-bost.

E-bost: Human.ResourcesAdmin@merthyr.gov.uk

Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol.

Gellir cael rhagor o wybodaeth drwy gysylltu â Fairyal Pabani ar 01685 725000 neu e-bostio Fairyal.Pabani@merthyr.gov.uk

Bydd angen i bob un ymgeisydd newydd gwblhau cwrs ar-lein, 10 awr o hyd, y Gymraeg yn y Gweithle. Bydd angen i chi gwblhau rhanau 1 a 2 a dangos tystiolaeth o hyn, cyn i chi ddechrau gyda’r Awdurdod. Am ragor o wybodaeth am sut i gwblhau’r cwrs, ewch i: https://learnwelsh.cymru/

Gellir cwblhau ffurflenni cais ar-lein ar www.merthyr.gov.uk

Os nad oes gennych fynediad i’r rhyngrwyd, gellir cael ffurflenni cais drwy ffonio 01685 725000 a dylent gael eu dychwelyd, ddim hwyrach na 22ain Awst 2024 i Adran Weinyddol AD, Canolfan Dinesig, Stryd y Castell, Merthyr Tudful, CF47 8AN.

Mae’r gallu i siarad y Gymraeg yn ddymunol.

Gallwn gau dyddiad y swydd ynghynt na’r dyddiad cau.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yn annog ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg. Gall ffurflenni cais gael eu cyflwyno yn y Gymraeg ac ni fydd ffurflenni a fydd yn cael eu cwblhau yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na’r rhai a gyflwynir yn y Saesneg.

Os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer, cysylltwch â human.resourcesadmin@merthyr.gov.uk er mwyn dweud wrthym os hoffech i’ch cyfweliad gael ei gynnal yn y Gymraeg.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yn ymrwymedig i ddiogelu’r rheini sydd fwyaf agored i niwed yn ein cymuned. Bydd gwiriadau cyn gyflogaeth trylwyr yn cael eu gwneud ar gyfer pob swydd fel rhan o’r broses recriwtio a dethol.

Mae’n rhaid i bob gweithiwr, wrth gyflawni eu cyfrifoldebau personol a sefydliadol, gydymffurfio â’r Ddeddf Gwarchod Data, y Polisi Diogelu Gwybodaeth a’r polisïau gweithredol perthnasol eraill. Ni ddylid datgelu unrhyw fater cyfrinachol wrth berson di-awdurdod neu drydydd parti ar unrhyw achlysur naill ai yn ystod eich cyflogaeth neu wedi i chi adael y swydd. Yr unig eithriadau yw pan fo disgwyl i chi wneud hynny dan eich amodau gwaith neu pan fo’n ofynnol gan y gyfraith, Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, neu’r ddau. Fe all dorri cyfrinachedd arwain at gamau disgyblu.

Rydym yn gwerthfawrogi amrywiaeth yn ein gweithlu ac yn ystyried ein hunain fel Cyflogwr o Ddewis, yn ymrwymedig i hyrwyddo ac integreiddio cydraddoldeb i bob agwedd o’n gwaith. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb ac yn annog ceisiadau gan bob grwp a chefndir i geisio ac ymuno gyda ni yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful. Rydym yn ymroddedig i ddileu gwahaniaethu yn y gweithle ac yn sicrhau nad oes dim gwahaniaethu anghyfreithlon yn digwydd yn y broses recriwtio a dewis ar sail oedran, anabledd, rhyw, hil, cyfeiriadedd rhywiol, priodas neu bartneriaeth sifil, crefydd neu gred, hunaniaeth rhywedd, beichiogrwydd neu famolaeth.