Ar-lein, Mae'n arbed amser

Swyddi Gwag Presennol

Swyddi: Seicolegydd Addysg
Cyfeirnod y swydd: RE-1599
Cyflog: £4,447.40 - I: £5,460.90
Graddfa Swydd: Graddfa A / Scale A
Oriau Swyddi: 3.7 awr / 3.7 hours
Lleoliad: Y Ganolfan Ddinesig / Civic Centre
Arbenigol:
Seicolegydd Addysg Soulbury Graddfa A pwynt 2-7 (£44,474- £54,609 y flwyddyn pro rata) +3 posib APSs
3.7 awr = (0.10%) = £4,447.40 - £5,460.90

Cynorthwyo i ddarparu Gwasanaethau Seicoleg Addysgol i blant yn ein hysgolion cyfrwng Cymraeg a'u teuluoedd. Darparu cefnogaeth a chyngor seicolegol i leoliadau cyn-ysgol ac ysgolion drwy gyfrwng y Gymraeg.

Defnyddio seicoleg i gynorthwyo Awdurdod Lleol Merthyr Tudful i ddiwallu anghenion plant a phobl ifanc a chyflawni rhwymedigaethau statudol yr ALl

Cynorthwyo i nodi cryfderau ac anawsterau plant a phobl ifanc sydd ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) yn y Fwrdeistref Sirol. Cynghori'r ddarpariaeth briodol i ddiwallu eu ADY.

Cymryd rôl arweiniol wrth gynorthwyo ysgolion, athrawon, rhieni ac asiantaethau partner eraill o ran diwygio ADY.

Darparu ymyriadau, gan gynnwys gwaith therapiwtig a hyfforddiant yn ôl yr angen.

Cynorthwyo mewn ymchwil sy'n galluogi cynnydd arferion cadarnhaol sy'n seiliedig ar dystiolaeth ar bob lefel yn yr ALl

Bydd goruchwyliaeth broffesiynol a DPP yn cael eu darparu gan y GSA.

Am wybodaeth bellach cysylltwch â Bronwen Parry ar 01685 725000.

Rhaid i bob ymgeisydd newydd gwblhau cwrs Gwaith Cymraeg arlein 10 awr. Rhaid cwblhau rhan 1 a 2 o’r cwrs a dangos tystiolaeth o hyn cyn dechrau gweithio gyda’r Awdurdod. Am wybodaeth bellach am sut i gwblhau’r cwrs hwn ewch i:
https://learnwelsh.cymru/

Bydd gofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'r holl gymwysterau a nodir yn hanfodol

Gwnewch gais ar-lein - www.merthyr.gov.uk
I gael ffurflen gais ffoniwch 01685 725000. Dychwelwch eich ffurflen erbyn 08.05.2024 i’r Adran Adnoddau Dynol, Canolfan Ddinesig, Stryd Y Castell, Merthyr Tudful, CF47 8AN.

Rydym yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag yn gynharach na'r dyddiad cau.
Ebost: Human.ResourcesAdmin@merthyr.gov.uk

Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn hanfodol.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yn annog ceisiadau oddi wrth siaradwyr Cymraeg. Gellir cyflwyno ffurflenni cais yn y Gymraeg a ni chaiff unrhyw gais a gaiff ei gwblhau yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol mewn unrhyw ffordd na’r rheini a gyflwynir yn Saesneg.

Os byddwch yn llwyddiannus i gael eich rhoi ar restr fer ar gyfer cyfweliad, cysylltwch â human.resourcesadmin@merthyr.gov.uk i roi gwybod os hoffech i’r cyfweliad gael ei gynnal yn y Gymraeg.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful wedi ymrwymo o warchod a diolgelu pobl fwyaf bregus ein cymunedau. Wrth recriwtio a dethol staff byddwn yn cynnal gwiriadau manwl cyn penodi unrhyw un.

Mae’n rhaid i bob gweithiwr, wrth gyflawni eu cyfrifoldebau personol a sefydliadol, gydymffurfio â’r Ddeddf Gwarchod Data, y Polisi Diogelu Gwybodaeth a’r polisïau gweithredol perthnasol eraill. Ni ddylid datgelu unrhyw fater cyfrinachol wrth berson di-awdurdod neu drydydd parti ar unrhyw achlysur naill ai yn ystod eich cyflogaeth neu wedi i chi adael y swydd. Yr unig eithriadau yw pan fo disgwyl i chi wneud hynny dan eich amodau gwaith neu pan fo’n ofynnol gan y gyfraith, Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, neu’r ddau. Fe all dorri cyfrinachedd arwain at gamau disgyblu.

Rydym yn gwerthfawrogi amrywiaeth yn ein gweithlu ac yn ystyried ein hunain fel Cyflogwr o Ddewis, yn ymrwymedig i hyrwyddo ac integreiddio cydraddoldeb i bob agwedd o’n gwaith. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb ac yn annog ceisiadau gan bob grwp a chefndir i geisio ac ymuno gyda ni yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful. Rydym yn ymroddedig i ddileu gwahaniaethu yn y gweithle ac yn sicrhau nad oes dim gwahaniaethu anghyfreithlon yn digwydd yn y broses recriwtio a dewis ar sail oedran, anabledd, rhyw, hil, cyfeiriadedd rhywiol, priodas neu bartneriaeth sifil, crefydd neu gred, hunaniaeth rhywedd, beichiogrwydd neu famolaeth.