Ar-lein, Mae'n arbed amser

Swyddi Gwag Presennol

Swyddi: Gweithiwr Cymorth Yn Y Ganolfan Blant Integredig
Cyfeirnod y swydd: RE-1766
Cyflog: £25,584.00 - I: £27,711.00
Graddfa Swydd: Gradd 3 / Grade 3
Oriau Swyddi: 30 Awr / 30 Hours
Lleoliad: Canolfan Plant Integredig / Integrated Children’s Centre
Arbenigol:
Oriau: 30 awr
Cyflog: Gradd 3 SCP 7-12 = £25,584 - £27,711 y flwyddyn pro rata
30 Awr = 81.08% = £20,743 - £22,468 y flwyddyn

Sicrhau bod y lefelau uchaf o wasanaeth cwsmeriaid, fel y'u diffinnir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, yn cael eu cynnal ar bob achlysur wrth i ni ddelio â chwsmeriaid/ymwelwyr a phlant sy'n cyrchu'r ganolfan gan mai'r rôl hon yw'r pwynt cyswllt cyntaf yn y Ganolfan Blant Integredig

Cyflawni dyletswyddau’r dderbynfa tra'n cynorthwyo i ddarparu cefnogaeth glerigol/gweinyddol beunyddiol i'r Ganolfan Blant Integredig. Mae’r gwaith hwn yn cynnwys dadansoddi pwy sy’n defnyddio’r cyfleuster ac am ba reswm drwy gofnodi’r wybodaeth berthnasol a chynnal cofnod manwl gywir o ddefnyddwyr y cyfleuster.

Cefnogi defnyddwyr y cyfleuster tra'n sicrhau amgylchedd diogel. Mi fydd hwn yn cynnwys cefnogi’t gwaith o weithredu prosesau a gweithdrefnau brys yn ôl yr angen

Am wybodaeth bellach cysylltwch â Nerys Jones ar 01685 725000 neu ebostiwch Nerys.Jones@merthyr.gov.uk

Bydd gofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'r holl gymwysterau a nodir yn hanfodol.

I gael ffurflen gais ffoniwch 01685 725000. Dychwelwch eich ffurflen erbyn 01.05.2025 i’r Adran Adnoddau Dynol, Canolfan Ddinesig, Stryd Y Castell, Merthyr Tudful, CF47 8AN.

Ebost: Human.ResourcesAdmin@merthyr.gov.uk

Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful wedi ymrwymo o warchod a diolgelu pobl fwyaf bregus ein cymunedau. Wrth recriwtio a dethol staff byddwn yn cynnal gwiriadau manwl cyn penodi unrhyw un.

Mae’n rhaid i bob gweithiwr, wrth gyflawni eu cyfrifoldebau personol a sefydliadol, gydymffurfio â’r Ddeddf Gwarchod Data, y Polisi Diogelu Gwybodaeth a’r polisïau gweithredol perthnasol eraill. Ni ddylid datgelu unrhyw fater cyfrinachol wrth berson di-awdurdod neu drydydd parti ar unrhyw achlysur naill ai yn ystod eich cyflogaeth neu wedi i chi adael y swydd. Yr unig eithriadau yw pan fo disgwyl i chi wneud hynny dan eich amodau gwaith neu pan fo’n ofynnol gan y gyfraith, Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, neu’r ddau. Fe all dorri cyfrinachedd arwain at gamau disgyblu.

Rydym yn gwerthfawrogi amrywiaeth yn ein gweithlu ac yn ystyried ein hunain fel Cyflogwr o Ddewis, yn ymrwymedig i hyrwyddo ac integreiddio cydraddoldeb i bob agwedd o’n gwaith. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb ac yn annog ceisiadau gan bob grwp a chefndir i geisio ac ymuno gyda ni yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful. Rydym yn ymroddedig i ddileu gwahaniaethu yn y gweithle ac yn sicrhau nad oes dim gwahaniaethu anghyfreithlon yn digwydd yn y broses recriwtio a dewis ar sail oedran, anabledd, rhyw, hil, cyfeiriadedd rhywiol, priodas neu bartneriaeth sifil, crefydd neu gred, hunaniaeth rhywedd, beichiogrwydd neu famolaeth.