Ar-lein, Mae'n arbed amser

Swyddi Gwag Presennol

Swyddi: Cynorthwyydd Taliadau Credydwyr
Cyfeirnod y swydd: RE-1789
Cyflog: £25,584.00 - I: £27,711.00
Graddfa Swydd: Gradd 3 / Grade 3
Oriau Swyddi: 32.5 Awr / 32.5 Hrs
Lleoliad: Y Ganolfan Ddinesig / Civic Centre
Arbenigol:
Oriau: 32.5 awr
Cyflog: Gradd 3 SCP 7-12 = £25,584 - £27,711 y flwyddyn pro rata
32.5 Oriau = 87.83% = £22,470 – £24,338 y flwyddyn

Cynorthwyo i redeg yr Adran Taliadau Credydwyr o ddydd i ddydd i sicrhau taliadau cywir a wneir i Gyflenwyr.

Prif atebolrwydd y swydd yw:

• cynorthwyo i fewnbynnu anfonebau gan bob Adran o fewn yr awdurdod;
• sefydlu, a chynnal, manylion cyflenwyr o fewn y system cyfrifon daladwy;
• darparu cymorth i feysydd gwasanaeth eraill ynghylch ymholiadau, hyfforddiant ac ati;
• cynorthwyo i hyfforddi'r rhai a allai fod angen mynediad i'r system cyfrifon taladwy;
• gwirio a monitro datganiadau cyflenwyr;
• ateb ymholiadau ynghylch talu anfonebau i gyflenwyr;
• gwirio taliadau contractwr ar gyfer gweinyddu treth is-gontractwr;
• gwirio gwiriadau statws hunangyflogaeth, gan gynnwys darparu cymorth i feysydd gwasanaeth eraill; a
• ymgymryd â dyletswyddau swyddfa cyffredinol, megis ffeilio, llungopïo ac ati.
• Cynorthwyo staff mewn perthynas â'r taliadau statws o fewn y system P2P
• Talu anfonebau trwy Gerdyn P a Cherdyn Lodge drwy'r system BSM
• Cyflawni cyfrifoldebau Iechyd a Diogelwch yn unol â pholisïau Iechyd a Diogelwch yr Awdurdod
• Cyflawni unrhyw ddyletswyddau eraill sy'n gymesur â'r radd fel
gofynnwyd yn rhesymol gan y rheolwr.
• Cydymffurfio â gofynion datgarboneiddio y Cyngor i gyflawni allyriadau carbon sero net

Am wybodaeth bellach cysylltwch â Lynne Weaver ar 01685 725000 neu ebostiwch Lynne.Weaver@merthyr.gov.uk

Bydd gofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'r holl gymwysterau a nodir yn hanfodol.

I gael ffurflen gais ffoniwch 01685 725000. Dychwelwch eich ffurflen erbyn 06.06.2025 i’r Adran Adnoddau Dynol, Canolfan Ddinesig, Stryd Y Castell, Merthyr Tudful, CF47 8AN.

Ebost: Human.ResourcesAdmin@merthyr.gov.uk

Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful wedi ymrwymo o warchod a diolgelu pobl fwyaf bregus ein cymunedau. Wrth recriwtio a dethol staff byddwn yn cynnal gwiriadau manwl cyn penodi unrhyw un.

Mae’n rhaid i bob gweithiwr, wrth gyflawni eu cyfrifoldebau personol a sefydliadol, gydymffurfio â’r Ddeddf Gwarchod Data, y Polisi Diogelu Gwybodaeth a’r polisïau gweithredol perthnasol eraill. Ni ddylid datgelu unrhyw fater cyfrinachol wrth berson di-awdurdod neu drydydd parti ar unrhyw achlysur naill ai yn ystod eich cyflogaeth neu wedi i chi adael y swydd. Yr unig eithriadau yw pan fo disgwyl i chi wneud hynny dan eich amodau gwaith neu pan fo’n ofynnol gan y gyfraith, Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, neu’r ddau. Fe all dorri cyfrinachedd arwain at gamau disgyblu.

Rydym yn gwerthfawrogi amrywiaeth yn ein gweithlu ac yn ystyried ein hunain fel Cyflogwr o Ddewis, yn ymrwymedig i hyrwyddo ac integreiddio cydraddoldeb i bob agwedd o’n gwaith. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb ac yn annog ceisiadau gan bob grwp a chefndir i geisio ac ymuno gyda ni yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful. Rydym yn ymroddedig i ddileu gwahaniaethu yn y gweithle ac yn sicrhau nad oes dim gwahaniaethu anghyfreithlon yn digwydd yn y broses recriwtio a dewis ar sail oedran, anabledd, rhyw, hil, cyfeiriadedd rhywiol, priodas neu bartneriaeth sifil, crefydd neu gred, hunaniaeth rhywedd, beichiogrwydd neu famolaeth.