Ar-lein, Mae'n arbed amser
Swyddi Gwag Presennol
Swyddi: Tîm Derbyn Gweithwyr Cymorth Llawn Amser ac Asesu Cynnar
Cyfeirnod y swydd: RE-1790
Cyflog: £28,163.00 - I: £30,060.00
Graddfa Swydd: Gradd 4 / Grade 4
Oriau Swyddi: 37 Awr / 37 Hours
Lleoliad: Y Ganolfan Ddinesig / Civic Centre
Arbenigol:
• Cwblhau nifer o swyddogaethau, yn y bôn i gefnogi cyflawni dyletswyddau statudol o fewn dyletswyddau amddiffyn plant a diogelu.
• Cwblhau Asesiadau Cymesur a Chynlluniau Gofal a Chymorth a gweithio ar y cyd â theuluoedd ac asiantaethau sy’n bartneriaid i ni. Cynnal llwyth achosion sy'n gwneud gwaith i atal cynydd yn yr anawsterau sy'n arwain at bryderon amddiffyn plant posibl ac o ganlyniad ymyriadau mwy cadarn. Bydd Gweithwyr Cymorth yn y Tîm Derbyn ac Asesu Cynnar yn argymell ac yn datblygu ymyriadau wedi'u targedu’n briodol sy'n helpu i sicrhau lles plant a theuluoedd.
Am wybodaeth bellach cysylltwch â Maisie Duckworth ar 01685 725000 neu ebostiwch Maisie.Duckworth@merthyr.gov.uk
Bydd gofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'r holl gymwysterau a nodir yn hanfodol.
I gael ffurflen gais ffoniwch 01685 725000. Dychwelwch eich ffurflen erbyn 12.06.2025 i’r Adran Adnoddau Dynol, Canolfan Ddinesig, Stryd Y Castell, Merthyr Tudful, CF47 8AN.
Ebost: Human.ResourcesAdmin@merthyr.gov.uk
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful wedi ymrwymo o warchod a diolgelu pobl fwyaf bregus ein cymunedau. Wrth recriwtio a dethol staff byddwn yn cynnal gwiriadau manwl cyn penodi unrhyw un.
Mae’n rhaid i bob gweithiwr, wrth gyflawni eu cyfrifoldebau personol a sefydliadol, gydymffurfio â’r Ddeddf Gwarchod Data, y Polisi Diogelu Gwybodaeth a’r polisïau gweithredol perthnasol eraill. Ni ddylid datgelu unrhyw fater cyfrinachol wrth berson di-awdurdod neu drydydd parti ar unrhyw achlysur naill ai yn ystod eich cyflogaeth neu wedi i chi adael y swydd. Yr unig eithriadau yw pan fo disgwyl i chi wneud hynny dan eich amodau gwaith neu pan fo’n ofynnol gan y gyfraith, Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, neu’r ddau. Fe all dorri cyfrinachedd arwain at gamau disgyblu.
Rydym yn gwerthfawrogi amrywiaeth yn ein gweithlu ac yn ystyried ein hunain fel Cyflogwr o Ddewis, yn ymrwymedig i hyrwyddo ac integreiddio cydraddoldeb i bob agwedd o’n gwaith. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb ac yn annog ceisiadau gan bob grwp a chefndir i geisio ac ymuno gyda ni yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful. Rydym yn ymroddedig i ddileu gwahaniaethu yn y gweithle ac yn sicrhau nad oes dim gwahaniaethu anghyfreithlon yn digwydd yn y broses recriwtio a dewis ar sail oedran, anabledd, rhyw, hil, cyfeiriadedd rhywiol, priodas neu bartneriaeth sifil, crefydd neu gred, hunaniaeth rhywedd, beichiogrwydd neu famolaeth.