Ar-lein, Mae'n arbed amser

Swyddi Gwag Presennol

Swyddi: Dadansoddwr Cymorth Technegol TGCh (Ysgolion)
Cyfeirnod y swydd: RE-1820
Cyflog: £31,537.00 - I: £33,699.00
Graddfa Swydd: Gradd 5 / Grade 5
Oriau Swyddi: 37 Awr / 37 Hours
Lleoliad: Uned 5 / Unit 5
Arbenigol:
Swydd Amser Penodol / Dyraniad
6 Mis - Dyddiadau Dechrau/Diwedd i'w cadarnhau

Cefndir

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yn darparu gwasanaethau TGaCh a chefnogaeth i 25 o ysgolion yn yr ardal leol. Mae Tîm Cymorth TGaCh yr Ysgol, sy'n rhan o Adran TGaCh ehangach y Cyngor, yn dîm sefydledig o bum aelod o staff, sy'n darparu ystod o gymorth caledwedd, meddalwedd, defnyddwyr a systemau. Mae'r gwasanaethau rydym yn eu darparu yn darparu ateb gofynion ein Dysgwyr, Arweinwyr Ysgolion, Staff Addysgu a Chymorth. Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau cymorth TGaCh o ansawdd uchel ac mae'n ceisio denu pobl sy'n gallu darparu cymorth a chyngor rhagorol i'n defnyddwyr.

Y Rôl

Darparu cymorth a chyngor TGaCh technegol i ysgolion. Yn bennaf yn gweithio'n agos gyda grwp llai o ysgolion. Mae'r rôl yn cynnwys ymweld â'r ysgol yn wythnosol i ddelio â cheisiadau am wasanaeth, gan gefnogi'r defnyddwyr yn rhagweithiol, datrys diffygion TG a chyflawni'r targedau gwasanaeth y cytunwyd arnynt.

Fel rhan o ymrwymiad i ddarparu gwasanaethau cymorth TGaCh o ansawdd uchel, bydd gofyn i chi gymryd rôl weithredol wrth ddatblygu a gwella'r gwasanaethau TGaCh a ddarperir gan y Cyngor. Bydd hyn yn cynnwys gweithio'n annibynnol, gyda rhywfaint o arweiniad, darparu cymorth TGaCh parhaus i ysgolion, meithrin perthnasoedd gwaith agos gyda defnyddwyr/cwsmeriaid a chydweithwyr adrannol a chynorthwyo ysgolion i ddatblygu systemau TGaCh yn unol â gofynion cyfredol yr ysgol a'n Strategaeth TGaCh a Digidol a rennir.

Am wybodaeth bellach cysylltwch â Philip Strand ar 01685 725000 neu ebostiwch Philip.Strand@merthyr.gov.uk

Bydd gofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'r holl gymwysterau a nodir yn hanfodol.

I gael ffurflen gais ffoniwch 01685 725000. Dychwelwch eich ffurflen erbyn 21.08.2025 i’r Adran Adnoddau Dynol, Canolfan Ddinesig, Stryd Y Castell, Merthyr Tudful, CF47 8AN.

Ebost: Human.ResourcesAdmin@merthyr.gov.uk

Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn dymunol.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful wedi ymrwymo o warchod a diolgelu pobl fwyaf bregus ein cymunedau. Wrth recriwtio a dethol staff byddwn yn cynnal gwiriadau manwl cyn penodi unrhyw un.

Mae’n rhaid i bob gweithiwr, wrth gyflawni eu cyfrifoldebau personol a sefydliadol, gydymffurfio â’r Ddeddf Gwarchod Data, y Polisi Diogelu Gwybodaeth a’r polisïau gweithredol perthnasol eraill. Ni ddylid datgelu unrhyw fater cyfrinachol wrth berson di-awdurdod neu drydydd parti ar unrhyw achlysur naill ai yn ystod eich cyflogaeth neu wedi i chi adael y swydd. Yr unig eithriadau yw pan fo disgwyl i chi wneud hynny dan eich amodau gwaith neu pan fo’n ofynnol gan y gyfraith, Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, neu’r ddau. Fe all dorri cyfrinachedd arwain at gamau disgyblu.

Rydym yn gwerthfawrogi amrywiaeth yn ein gweithlu ac yn ystyried ein hunain fel Cyflogwr o Ddewis, yn ymrwymedig i hyrwyddo ac integreiddio cydraddoldeb i bob agwedd o’n gwaith. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb ac yn annog ceisiadau gan bob grwp a chefndir i geisio ac ymuno gyda ni yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful. Rydym yn ymroddedig i ddileu gwahaniaethu yn y gweithle ac yn sicrhau nad oes dim gwahaniaethu anghyfreithlon yn digwydd yn y broses recriwtio a dewis ar sail oedran, anabledd, rhyw, hil, cyfeiriadedd rhywiol, priodas neu bartneriaeth sifil, crefydd neu gred, hunaniaeth rhywedd, beichiogrwydd neu famolaeth.