Ar-lein, Mae'n arbed amser

Swyddi Gwag Presennol

Swyddi: Gweithiwr Allgymorth
Cyfeirnod y swydd: RE-1824
Cyflog: £31,537.00 - I: £33,699.00
Graddfa Swydd: Gradd 5 / Grade 5
Oriau Swyddi: 37 Awr / 37 Hours
Lleoliad: Canolfan Ddinesig Merthyr Tudful / Merthyr Tydfil Civic Centre
Arbenigol:


Tymor Penodol tan 31 Mawrth 2027

Darparu gwasanaeth o safon i'r teuluoedd sydd fwyaf agored i niwed yn yr ardal, gan ddefnyddio rhaglenni sy'n seiliedig ar dystiolaeth er mwyn annog a hyrwyddo ffordd mwy effeithiol o fagi plant a thrwy hynny leihau'r tebygolrwydd o niwed i blant a phobl ifanc.

Gallai'r gwaith gynnwys meysydd megis Perthnasoedd Iach, Trais Domestig, Rheoli Dicter, Camddefnyddio Sylweddau, Sgiliau Rhianta ac Arferion a Ffiniau. Bydd y cymorth yn cael ei gyfarwyddo gan y Gweithiwr Cymdeithasol a ddyrannwyd a'i drafod gyda'r teulu/gofalwyr.

Am ein bod yn wasanaeth y tu allan i oriau swyddfa, rydym hefyd yn darparu ymyrraeth argyfwng pan fod angen cymorth brys ar deulu i sicrhau bod materion sydd angen sylw ar unwaith yn cael eu rheoli a bod sefyllfa’r teulu’n cael ei sefydlogi. Pan fyddwn yn gweithio fel gwasanaeth y Tu Allan i Oriau Swyddfa, rydym yn cysylltu gyda’r Tîm Dylestwydd Argyfwng a'r Heddlu pan fod angen os bydd unrhyw bryderon diogelu yn codi.

Am wybodaeth bellach cysylltwch â Hayley Hodson ar 01685 725000 neu ebostiwch Hayley.Hodson@merthyr.gov.uk

Bydd gofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'r holl gymwysterau a nodir yn hanfodol.

I gael ffurflen gais ffoniwch 01685 725000. Dychwelwch eich ffurflen erbyn 04.09.2025 i’r Adran Adnoddau Dynol, Canolfan Ddinesig, Stryd Y Castell, Merthyr Tudful, CF47 8AN.

Ebost: Human.ResourcesAdmin@merthyr.gov.uk

Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn dymunol.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful wedi ymrwymo o warchod a diolgelu pobl fwyaf bregus ein cymunedau. Wrth recriwtio a dethol staff byddwn yn cynnal gwiriadau manwl cyn penodi unrhyw un.

Mae’n rhaid i bob gweithiwr, wrth gyflawni eu cyfrifoldebau personol a sefydliadol, gydymffurfio â’r Ddeddf Gwarchod Data, y Polisi Diogelu Gwybodaeth a’r polisïau gweithredol perthnasol eraill. Ni ddylid datgelu unrhyw fater cyfrinachol wrth berson di-awdurdod neu drydydd parti ar unrhyw achlysur naill ai yn ystod eich cyflogaeth neu wedi i chi adael y swydd. Yr unig eithriadau yw pan fo disgwyl i chi wneud hynny dan eich amodau gwaith neu pan fo’n ofynnol gan y gyfraith, Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, neu’r ddau. Fe all dorri cyfrinachedd arwain at gamau disgyblu.

Rydym yn gwerthfawrogi amrywiaeth yn ein gweithlu ac yn ystyried ein hunain fel Cyflogwr o Ddewis, yn ymrwymedig i hyrwyddo ac integreiddio cydraddoldeb i bob agwedd o’n gwaith. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb ac yn annog ceisiadau gan bob grwp a chefndir i geisio ac ymuno gyda ni yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful. Rydym yn ymroddedig i ddileu gwahaniaethu yn y gweithle ac yn sicrhau nad oes dim gwahaniaethu anghyfreithlon yn digwydd yn y broses recriwtio a dewis ar sail oedran, anabledd, rhyw, hil, cyfeiriadedd rhywiol, priodas neu bartneriaeth sifil, crefydd neu gred, hunaniaeth rhywedd, beichiogrwydd neu famolaeth.