Ar-lein, Mae'n arbed amser
Swyddi Gwag Presennol
Swyddi: Swyddog Monitro Contractau / Brocer Gofal Gwasanaethau Oedolion
Cyfeirnod y swydd: RE-1836
Cyflog: £31,537.00 - I: £33,699.00
Graddfa Swydd: Gradd 5 / Grade 5
Oriau Swyddi: 37 Awr / 37 Hours
Lleoliad: Ystafell 225 Canolfan Ddinesig - Gweithio ystwyth / Room 225 Civic Centre -Agile Working
Arbenigol:
• Monitro Contractau Gwasanaeth Gofal Cartref, Byw â Chymorth a Chytundebau eraill gyda'r holl ddarparwyr gwasanaeth o fewn Gwasanaethau Oedolion.
• Darparu gwasanaeth monitro contract sy'n sicrhau bod darparwyr gofal cymdeithasol i oedolion yn darparu gwasanaethau yn unol â manyleb gwasanaeth y contract.
• Gwerthuso'r wybodaeth berfformiad sy'n ymwneud â darparwyr gofal cymdeithasol i oedolion i gefnogi'r gwaith o ddatblygu gwasanaethau ym Merthyr Tudful
• Hwyluso contractau ar gyfer gwasanaethau gofal ar lefel gwasanaeth unigol, gyda'r darparwr mwyaf priodol. Rheoli llif oriau gofal cartref i ddarparwyr cymeradwy gan sicrhau bod gwasanaethau yn cael eu comisiynu sy'n cynnig y gwerth gorau am arian.
• Sefydlu contractau'n gyflym i symud pobl ymlaen o wasanaethau tymor byr a lleihau oedi i ryddhau ysbytai.
• Rheoli galw am ofal cartref trwy reoli ceisiadau, gweithredu fel pwynt cyswllt canolog i ddarparwyr a chydlynu'r ymateb, gan gynnwys awdurdodiad priodol.
• Cadw cofnodion cadarn a gwybodaeth reoli ar wasanaethau dan gontract.
Am wybodaeth bellach cysylltwch â Tracy Jenkins ar 01685 725000 neu ebostiwch Tracy.Jenkins@merthyr.gov.uk
Bydd gofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'r holl gymwysterau a nodir yn hanfodol.
I gael ffurflen gais ffoniwch 01685 725000. Dychwelwch eich ffurflen erbyn 09.10.2025 i’r Adran Adnoddau Dynol, Canolfan Ddinesig, Stryd Y Castell, Merthyr Tudful, CF47 8AN.
Ebost: Human.ResourcesAdmin@merthyr.gov.uk
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn dymunol.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful wedi ymrwymo o warchod a diolgelu pobl fwyaf bregus ein cymunedau. Wrth recriwtio a dethol staff byddwn yn cynnal gwiriadau manwl cyn penodi unrhyw un.
Mae’n rhaid i bob gweithiwr, wrth gyflawni eu cyfrifoldebau personol a sefydliadol, gydymffurfio â’r Ddeddf Gwarchod Data, y Polisi Diogelu Gwybodaeth a’r polisïau gweithredol perthnasol eraill. Ni ddylid datgelu unrhyw fater cyfrinachol wrth berson di-awdurdod neu drydydd parti ar unrhyw achlysur naill ai yn ystod eich cyflogaeth neu wedi i chi adael y swydd. Yr unig eithriadau yw pan fo disgwyl i chi wneud hynny dan eich amodau gwaith neu pan fo’n ofynnol gan y gyfraith, Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, neu’r ddau. Fe all dorri cyfrinachedd arwain at gamau disgyblu.
Rydym yn gwerthfawrogi amrywiaeth yn ein gweithlu ac yn ystyried ein hunain fel Cyflogwr o Ddewis, yn ymrwymedig i hyrwyddo ac integreiddio cydraddoldeb i bob agwedd o’n gwaith. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb ac yn annog ceisiadau gan bob grwp a chefndir i geisio ac ymuno gyda ni yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful. Rydym yn ymroddedig i ddileu gwahaniaethu yn y gweithle ac yn sicrhau nad oes dim gwahaniaethu anghyfreithlon yn digwydd yn y broses recriwtio a dewis ar sail oedran, anabledd, rhyw, hil, cyfeiriadedd rhywiol, priodas neu bartneriaeth sifil, crefydd neu gred, hunaniaeth rhywedd, beichiogrwydd neu famolaeth.