Ar-lein, Mae'n arbed amser

Swyddi Gwag Presennol

Swyddi: Cynorthwyydd Canolfan Fusnes Orbit
Cyfeirnod y swydd: RE-1843
Cyflog: £26,403.00 - I: £28,598.00
Graddfa Swydd: Gradd 3 / Grade 3
Oriau Swyddi: 20 Awrs / 20 Hours
Lleoliad: Canolfan Fusnes Orbit / Orbit Business Centre
Arbenigol:
20 Awr
Cyflog = 54.05% o Radd 3 SCP 7 - 12 = £14,270 - £15,457 y flwyddyn.

Cyfrannu at redeg Canolfan Fusnes Orbit yn effeithlon, gan ddarparu cymorth o ddydd i ddydd ar draws ystod eang o ddyletswyddau sy'n gysylltiedig â chanolfan fusnes a chynadledda brysur.

Ar y dechrau byddwch yn darparu cymorth i sefydlu cyfleusterau cynadledda a hyfforddiant ac yn cynorthwyo gydag ystod o ddyletswyddau ar y dderbynfa er mwyn sicrhau bod y Ganolfan yn cael ei chynnal yn effeithlon.

Darparu cymorth rheng flaen parhaus i ddefnyddwyr y Ganolfan a hyfforddiant dilynol i gynorthwyo mewn ystod eang o ddyletswyddau a bod wrth gefn i wneud gwaith aelodau staff eraill yn ôl yr angen.

Am wybodaeth bellach cysylltwch â Lucia Jones / Lance Whiteley ar 01685 725000 neu ebostiwch Lucia.Jones@merthyr.gov.uk / Lance.Whiteley@merthyr.gov.uk.

Bydd gofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'r holl gymwysterau a nodir yn hanfodol.

I gael ffurflen gais ffoniwch 01685 725000. Dychwelwch eich ffurflen erbyn 18.12.2025 i’r Adran Adnoddau Dynol, Canolfan Ddinesig, Stryd Y Castell, Merthyr Tudful, CF47 8AN.

Ebost: Human.ResourcesAdmin@merthyr.gov.uk

Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn dymunol.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful wedi ymrwymo o warchod a diolgelu pobl fwyaf bregus ein cymunedau. Wrth recriwtio a dethol staff byddwn yn cynnal gwiriadau manwl cyn penodi unrhyw un.

Mae’n rhaid i bob gweithiwr, wrth gyflawni eu cyfrifoldebau personol a sefydliadol, gydymffurfio â’r Ddeddf Gwarchod Data, y Polisi Diogelu Gwybodaeth a’r polisïau gweithredol perthnasol eraill. Ni ddylid datgelu unrhyw fater cyfrinachol wrth berson di-awdurdod neu drydydd parti ar unrhyw achlysur naill ai yn ystod eich cyflogaeth neu wedi i chi adael y swydd. Yr unig eithriadau yw pan fo disgwyl i chi wneud hynny dan eich amodau gwaith neu pan fo’n ofynnol gan y gyfraith, Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, neu’r ddau. Fe all dorri cyfrinachedd arwain at gamau disgyblu.

Rydym yn gwerthfawrogi amrywiaeth yn ein gweithlu ac yn ystyried ein hunain fel Cyflogwr o Ddewis, yn ymrwymedig i hyrwyddo ac integreiddio cydraddoldeb i bob agwedd o’n gwaith.
Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb ac yn annog ceisiadau gan bob grwp a chefndir i geisio ac ymuno gyda ni yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful. Rydym yn ymroddedig i ddileu gwahaniaethu yn y gweithle ac yn sicrhau nad oes dim gwahaniaethu anghyfreithlon yn digwydd yn y broses recriwtio a dewis ar sail oedran, anabledd, rhyw, hil, cyfeiriadedd rhywiol, priodas neu bartneriaeth sifil, crefydd neu gred, hunaniaeth rhywedd, beichiogrwydd neu famolaeth.