Ar-lein, Mae'n arbed amser

Swyddi Gwag Presennol

Swyddi: Prif rôl: Torrwr Beddau – Arweinydd Tîm
Cyfeirnod y swydd: RE-1851
Cyflog: £29,064.00 - I: £31,022.00
Graddfa Swydd: Gradd 4 / Grade 4
Oriau Swyddi: 37 Awr / 37 Hours
Lleoliad: Unrhyw Ddepo o fewn Gwasanaethau Cymdogaeth / Any Depot within Neighbourhood Services
Arbenigol:
Cloddio beddau yn unol â'r cod ymarfer cymeradwy ar gyfer claddedigaethau (COTS).

Yn gyfrifol am y llwythi gwaith gweithredol a geir yn yr Adran Gwasanaethau Profedigaeth, gan gynnwys holl weithrediadau mynwentydd, gwasanaethau claddu a chofnodi cofnodion claddu priodol a chywir.

Cynorthwyo'r uwch arweinydd sy'n arwain 2 dîm bach gan sicrhau bod mynwentydd CBSMT yn cael eu cynnal i'r safonau uchaf posibl.

Yr oriau gweithredu yw dydd Llun i ddydd Iau 8.00am - 4.00pm a dydd Gwener 8.00am - 3.30pm.

Sylwer:
Bydd gofyn i chi fod ar gael i weithio o fewn unrhyw feysydd gwasanaeth yn y Gwasanaethau Cymdogaeth yn ôl blaenoriaethau. Gall hyn fod yn Wasanaethau Gwastraff, Priffyrdd, Parciau neu Lanhau Strydoedd a gallai fod ar ystod lawn o ddyletswyddau sy'n gymesur â'r radd.

Am wybodaeth bellach cysylltwch â Paul Jones ar 01685 725000 neu ebostiwch Paul.Jones2@merthyr.gov.uk

Bydd gofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'r holl gymwysterau a nodir yn hanfodol.

I gael ffurflen gais ffoniwch 01685 725000. Dychwelwch eich ffurflen erbyn 11.12.2025 i’r Adran Adnoddau Dynol, Canolfan Ddinesig, Stryd Y Castell, Merthyr Tudful, CF47 8AN.

Ebost: Human.ResourcesAdmin@merthyr.gov.uk

Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn dymunol.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful wedi ymrwymo o warchod a diolgelu pobl fwyaf bregus ein cymunedau. Wrth recriwtio a dethol staff byddwn yn cynnal gwiriadau manwl cyn penodi unrhyw un.

Mae’n rhaid i bob gweithiwr, wrth gyflawni eu cyfrifoldebau personol a sefydliadol, gydymffurfio â’r Ddeddf Gwarchod Data, y Polisi Diogelu Gwybodaeth a’r polisïau gweithredol perthnasol eraill. Ni ddylid datgelu unrhyw fater cyfrinachol wrth berson di-awdurdod neu drydydd parti ar unrhyw achlysur naill ai yn ystod eich cyflogaeth neu wedi i chi adael y swydd. Yr unig eithriadau yw pan fo disgwyl i chi wneud hynny dan eich amodau gwaith neu pan fo’n ofynnol gan y gyfraith, Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, neu’r ddau. Fe all dorri cyfrinachedd arwain at gamau disgyblu.

Rydym yn gwerthfawrogi amrywiaeth yn ein gweithlu ac yn ystyried ein hunain fel Cyflogwr o Ddewis, yn ymrwymedig i hyrwyddo ac integreiddio cydraddoldeb i bob agwedd o’n gwaith. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb ac yn annog ceisiadau gan bob grwp a chefndir i geisio ac ymuno gyda ni yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful. Rydym yn ymroddedig i ddileu gwahaniaethu yn y gweithle ac yn sicrhau nad oes dim gwahaniaethu anghyfreithlon yn digwydd yn y broses recriwtio a dewis ar sail oedran, anabledd, rhyw, hil, cyfeiriadedd rhywiol, priodas neu bartneriaeth sifil, crefydd neu gred, hunaniaeth rhywedd, beichiogrwydd neu famolaeth.