Ar-lein, Mae'n arbed amser

Swyddi Gwag Presennol

Swyddi: Swyddog Cefnogi Dadansoddwr Data a Busnes
Cyfeirnod y swydd: RE-1855
Cyflog: £31,537.00 - I: £33,699.00
Graddfa Swydd: Gradd 5 / Grade 5
Oriau Swyddi: 37 Awr / 37 Hours
Lleoliad: Y Ganolfan Ddinesig, Gweithio Hyblyg / Civic Centre, Agile working
Arbenigol:
Cefnogi'r Swyddog Dadansoddi Data gyda dylunio, datblygu a chyflwyno systemau cudd-wybodaeth busnes strategol a gweithredol amserol, cywir a gweithredadwy sy'n gwella mynediad at wybodaeth a’r math o wybodaeth sydd ar gael yn ogystal â data busnes gan ganolbwyntio ar adrodd awtomataidd.

Defnyddio sgiliau ymchwil, Technoleg Gwybodaeth ac ail-beiriannu busnes (gan gynnwys peirianneg meddalwedd) i ddylunio systemau i ddatrys problemau cymhleth. Gofyna eich bod yn trin setiau mawr o ddata.

Cefnogi'r Swyddog Dadansoddi Data i ddatblygu pensaernïaeth Cudd-wybodaeth Busnes y Cyngor a defnyddio dulliau e-ddysgu i ddatblygu gallu'r Cyngor i ddadansoddi ac integreiddio setiau data yn effeithiol.

Gweithio gyda thimau o bob rhan o'r Cyngor er mwyn sefydlu ffyrdd mwy effeithiol ac effeithlon o reoli data sy'n arwain at wneud penderfyniadau gwell a strategaethau mwy gwybodus.

Bydd y rôl hon yn cefnogi'r Swyddog Dadansoddi Data i weithredu dulliau arloesol ar gyfer prosesu data a dadansoddi, gan feithrin mewnwelediadau dyfnach ac effeithlonrwydd gweithredol er mwyn gwella prosesau gwneud penderfyniadau a gwella perfformiad ar draws yr holl wasanaethau.

Cadw i fyny â ffynonellau ystadegol, methodoleg ac ymchwil yn y sector cyhoeddus i ragweld a diwallu anghenion sy'n dod i'r amlwg gan y Cyngor ar gyfer ymchwil a gwybodaeth ystadegol.

Chwarae rôl wrth greu ac integreiddio systemau cudd-wybodaeth busnes awtomataidd i sicrhau mynediad ac argaeledd di-dor o wybodaeth fusnes, gan hwyluso gwneud penderfyniadau sy'n cael ei yrru gan ddata ac optimeiddio perfformiad.

Am wybodaeth bellach cysylltwch â Hannah Brown ar 01685 725000 neu ebostiwch Hannah.Brown@merthyr.gov.uk

Bydd gofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'r holl gymwysterau a nodir yn hanfodol.

I gael ffurflen gais ffoniwch 01685 725000. Dychwelwch eich ffurflen erbyn 27.11.2025 i’r Adran Adnoddau Dynol, Canolfan Ddinesig, Stryd Y Castell, Merthyr Tudful, CF47 8AN.

Ebost: Human.ResourcesAdmin@merthyr.gov.uk

Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn dymunol.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful wedi ymrwymo o warchod a diolgelu pobl fwyaf bregus ein cymunedau. Wrth recriwtio a dethol staff byddwn yn cynnal gwiriadau manwl cyn penodi unrhyw un.

Mae’n rhaid i bob gweithiwr, wrth gyflawni eu cyfrifoldebau personol a sefydliadol, gydymffurfio â’r Ddeddf Gwarchod Data, y Polisi Diogelu Gwybodaeth a’r polisïau gweithredol perthnasol eraill. Ni ddylid datgelu unrhyw fater cyfrinachol wrth berson di-awdurdod neu drydydd parti ar unrhyw achlysur naill ai yn ystod eich cyflogaeth neu wedi i chi adael y swydd. Yr unig eithriadau yw pan fo disgwyl i chi wneud hynny dan eich amodau gwaith neu pan fo’n ofynnol gan y gyfraith, Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, neu’r ddau. Fe all dorri cyfrinachedd arwain at gamau disgyblu.

Rydym yn gwerthfawrogi amrywiaeth yn ein gweithlu ac yn ystyried ein hunain fel Cyflogwr o Ddewis, yn ymrwymedig i hyrwyddo ac integreiddio cydraddoldeb i bob agwedd o’n gwaith. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb ac yn annog ceisiadau gan bob grwp a chefndir i geisio ac ymuno gyda ni yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful. Rydym yn ymroddedig i ddileu gwahaniaethu yn y gweithle ac yn sicrhau nad oes dim gwahaniaethu anghyfreithlon yn digwydd yn y broses recriwtio a dewis ar sail oedran, anabledd, rhyw, hil, cyfeiriadedd rhywiol, priodas neu bartneriaeth sifil, crefydd neu gred, hunaniaeth rhywedd, beichiogrwydd neu famolaeth