Ar-lein, Mae'n arbed amser
Swyddi Gwag Presennol
Swyddi: Gweithiwr Cymorth Nos Effro x1
Cyfeirnod y swydd: RE-1744
Cyflog: £28,163.00 - I: £30,060.00
Graddfa Swydd: Gradd 4/ Grade 4
Oriau Swyddi: 31.5 Awr /31.5 Hours
Lleoliad: Y Blodau (Uned 1) / The Flowers (Unit 1)
Arbenigol:
Gradd 4 SCP 13-17 = £28,163 - £30,060 y flwyddyn pro rata
31.5 awr = 85.13% = £23,975 - £25,590 y flwyddyn
Rydym yn chwilio am Weithwyr Cymorth Preswyl i helpu i sefydlu ein cartref plant preswyl ein hunain ym Mwrdeistref Sirol Merthyr Tudful. Mae hwn yn gyfnod cyffrous i ymuno â'r awdurdod lleol wrth i ni ddechrau sefydlu cangen breswyl i gefnogi rhai o'r plant a'r bobl ifanc sydd yn ein gofal. Fel Gweithiwr Cymorth Preswyl, byddwch yn rhan annatod o ddarparu amgylchedd diogel lle bydd ein plant a'n pobl ifanc yn byw. Byddwch yn eu cefnogi i gyrraedd eu llawn botensial drwy roi cyfleoedd iddynt ffynnu. Bydd hyn yn cynnwys darparu cefnogaeth emosiynol a chymdeithasol, rheoli ymddygiad heriol a datblygu dealltwriaeth o drawma plentyndod cynnar a'r effaith ar y bobl ifanc yn ein gofal. Mae'r rôl yn cynnwys cefnogi, fel tîm staff, ofal uniongyrchol plant o ddydd i ddydd ym mhob agwedd ar eu bywyd: arferion dyddiol, presenoldeb addysg, gweithgareddau, hobïau a chyfranogiad cymunedol. Bydd disgwyl i chi ymgymryd â thasgau domestig a chartrefol yn ogystal â mynychu apwyntiadau a chadw cysylltiad â theulu a ffrindiau. Mae'r bobl ifanc yn derbyn gofal 24 awr a bydd gofyn i chi weithio sifftiau cysgu i mewn, ar sail rota, i gefnogi hyn.
Am wybodaeth bellach cysylltwch â Warren Davies ar 01685 725000 neu ebostiwch Warren.Davies@merthyr.gov.uk
Bydd gofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'r holl gymwysterau a nodir yn hanfodol.
I gael ffurflen gais ffoniwch 01685 725000. Dychwelwch eich ffurflen erbyn 06.06.2025 i’r Adran Adnoddau Dynol, Canolfan Ddinesig, Stryd Y Castell, Merthyr Tudful, CF47 8AN.
Ebost: Human.ResourcesAdmin@merthyr.gov.uk
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful wedi ymrwymo o warchod a diolgelu pobl fwyaf bregus ein cymunedau. Wrth recriwtio a dethol staff byddwn yn cynnal gwiriadau manwl cyn penodi unrhyw un.
Mae’n rhaid i bob gweithiwr, wrth gyflawni eu cyfrifoldebau personol a sefydliadol, gydymffurfio â’r Ddeddf Gwarchod Data, y Polisi Diogelu Gwybodaeth a’r polisïau gweithredol perthnasol eraill. Ni ddylid datgelu unrhyw fater cyfrinachol wrth berson di-awdurdod neu drydydd parti ar unrhyw achlysur naill ai yn ystod eich cyflogaeth neu wedi i chi adael y swydd. Yr unig eithriadau yw pan fo disgwyl i chi wneud hynny dan eich amodau gwaith neu pan fo’n ofynnol gan y gyfraith, Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, neu’r ddau. Fe all dorri cyfrinachedd arwain at gamau disgyblu.
Rydym yn gwerthfawrogi amrywiaeth yn ein gweithlu ac yn ystyried ein hunain fel Cyflogwr o Ddewis, yn ymrwymedig i hyrwyddo ac integreiddio cydraddoldeb i bob agwedd o’n gwaith. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb ac yn annog ceisiadau gan bob grwp a chefndir i geisio ac ymuno gyda ni yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful. Rydym yn ymroddedig i ddileu gwahaniaethu yn y gweithle ac yn sicrhau nad oes dim gwahaniaethu anghyfreithlon yn digwydd yn y broses recriwtio a dewis ar sail oedran, anabledd, rhyw, hil, cyfeiriadedd rhywiol, priodas neu bartneriaeth sifil, crefydd neu gred, hunaniaeth rhywedd, beichiogrwydd neu famolaeth.